Clonc yn arwain yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyflwyniad Dylan Lewis i gynrychiolwyr y Papurau Bro yn y Babell Lên.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Ar ddydd Llun 3ydd Awst 2009 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala trefnodd Bwrdd yr Iaith gyfarfod i gynrychiolwyr papurau bro Cymru yn y Babell Lên.

Meirion Prys Jones Bwrdd yr Iaith oedd cadeirydd y cyfarfod a rhoddodd Alun Fred Jones y Gweinidog Treftadaeth anerchiad.  Gwahoddwyd Dylan Lewis ar ran Papur Bro Clonc wedyn i drafod y wefan www.clonc.co.uk .

Cafwyd cwestiynau i’r Gweinidog am gyllid, gwirfoddolwyr a chydweithio, a chafwyd ymateb da i gyflwyniad Dylan am wahanol agweddau o drefnu gwefan.  Synnwyd ambell gynrychiolydd o’r ffordd yr aeth Clonc, fel un neu ddau bapur bro arall, ati i sefydlu a chynnal gwefan.

Gan ddymuno pob llwyddiant i Clonc, dywedodd Meirion Prys Jones “Roedd yn ddiddorol iawn clywed am lwyddiannau Clonc a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr a’r darllenwyr.”

Tipyn o anrhydedd yn wir i Clonc oedd cael bod yn rhan o gyfarfod fel hyn ar lefel Cymru.  Diolch i bawb am barhau i gefnogi gan sicrhau papur bro sy’n arwain y ffordd i bapurau bro eraill.