Ailagor Neuadd yr Hafod, Gorsgoch

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Neithiwr, cynhaliwyd cyngerdd swyddogol er mwyn ailagor Neuadd yr Hafod, Gorsgoch. Adnewyddwyd y neuadd yn ddiweddar, ar ôl i Bwyllgor  y Neuadd dderbyn grant wrth The Big Lottery a’r Cyngor. Rhaid diolch iddyn nhw am fuddsoddi yn y Neuadd arbennig yma, ac mae ein diolch yn fawr hefyd i Gyngor y Gymuned, Tai Ceredigion am drefnu i ni gael cegin, i Magnets am roi’r gegin ac i Jamson am ei gosod hi. Yn wir, mae’r lle yn dipyn o ryfeddod erbyn hyn, ac yn gyrchfan gymunedol hefryd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Os hoffech fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.neuaddyrhafod.co.uk neu mae gennym safle Facebook hefyd.

Agorwyd y neuadd yn swyddogol gan ein llywyddion, sef Margaret Davies ac Elizabeth Stevens, sef wyrion y perchennog tir, lle adeiladwyd y neuadd yn wreiddiol yn 1949. Rhoddwyd y tir gan Mr John Lloyd a’i fab i’r gymuned i adeiladu’r neuadd, ac roedd Margaret ac Elizabeth yn ofnadwy o falch o weld bod y neuadd yn llawn trigolion lleol unwaith eto.

Llywyddion

Braf oedd croesawu’n gwesteion i’r gyngerdd hefyd, a diolch iddynt am eu cefnogaeth: Cadeirydd y Cyngor, Gill Hopley, Y Cynghorydd Euros Davies a’i wraig Janet, Y Cynghorydd Gareth Lloyd, a’i wraig Cerys a Mr Jeff Thomas, adeiladwr y neuadd ar ei newydd wedd. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Elin Jones, Y Big Lottery a’r pensaer Huw Davies.

Cafodd y gynulleidfa wledd o adloniant neithiwr, gyda’r artistiaid talentog. Diolch iddyn nhw i gyd: Ysgolion Cwrtnewydd, Llanwenog a Llanwnnen, C.Ff.I. Llanwenog, Côr Llefaru Sarn Helen, Côr Lleisiau’r Werin ac Eiddwen Hatcher a Margaret Wilson am eu cyflwyniad ar hanes y neuadd.

Ysgolion

Lleisiau'r Werin

Côr

Clwb

Roedd y gyngerdd mewn dwylo sâff, wrth i Eifion Morgans arwain y noson yn ei arddull unigryw ei hun – llond lle o jôcs a chwerthin. Diolch iddo.

Eifion

Cyflwynwyd ‘defibrillator’ i’r neuadd gan Gwyneth Morgans er cof am ei gŵr, Wyn Morgans. Bydd y peiriant yn cael ei osod tu allan i’r neuadd er lles a budd ein cymuned. Diolch i Gwyneth am yr holl ymdrech a’i gwaith i gasglu’r arian.

Gwyneth cyflwyno

Noson hanesyddol ac arbennig iawn. Diolch i bawb am eich cefnogaeth.

Yn wir, mae’n werth ymweld â’r adeilad cymunedol yma erbyn hyn, a chofiwch am y digwyddiadau yma sydd ar y gweill:

04/11/15:             Cyfarfod cyntaf Merched y Wawr Gorsgoch. 7.30yh.  Addurno Cacennau.

10/11/15:             Cyngerdd Pigion Eisteddfod C.Ff.I. Llanwenog. 7.30yh.

18/11/15:             Clwb trafod llyfaru. 7.30yh. Trafod y gyfrol Plu, gan Caryl Lewis.

26/11/15:             Tommy Williams yn lawnsio llyfr. 6.00yh

13/12/15:             Ffair Nadolig. 11.00yb nes 4.00yp.