gan
Nia Wyn Davies
Cynhaliwyd noson bingo lwyddiannus yn Ysgol Cwrtnewydd nos Wener, Ebrill 17eg i godi arian tuag at Mabolgampau’r pentref a fydd yn cael ei gynnal ar yr ail ddydd Sadwrn ym mis Gorffennaf ar gae’r ysgol. Mrs Wendy Davies, Cadeirydd y pwyllgor a groesawodd pawb. Mr Gwyn Jones fu’n galw’r rhifau.
Ar ddiwedd y Bingo, cafodd pawb gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Yna, trosglwyddwyd sieciau hael i Gymdeithas Hŷn Llanwenog, Cylch Ti a Fi Cwrtnewydd ac Ysgol Gynradd Cwrtnewydd.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am gefnogi unwaith yn rhagor eleni eto.