Bygythiad i Feithrinfa Gwdihŵs

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Gwdihŵs
Gwdihŵs

Cynhaliwyd cyfarfod yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant Llanbed nos Fawrth ynglŷn â dyfodol Meithrinfa Gwdihŵs yno.

Dyma feithrinfa dydd boblogaidd sy’n darparu gofal plant o safon dda i deuluoedd ifanc y dref a’r cyffiniau. Mae’n cyflogi sawl person hefyd sy’n dangos gofal a chonsyrn dros y plant bach.

Ond mae’n achos pryder i lawer bod bygythid dros ddyfodol y lle. Ymddengys ei bod yn gwneud colled ariannol, cymaint â £20,000 y flwyddyn. Y dewis ar gyfer ei dyfodol yw ei chau neu godi’r tâl. Amcangyfrifir y bydd angen codi £10 y plentyn yn ychwanegol bob dydd er mwyn gwella’r sefyllfa ariannol. Byddai hyn yn gwthio costau gofal plant yn y dref mas o gyrraedd llawer iawn o rieni.

Mae Gwdihŵs yn cynnig gofal plant dwyieithog ac wedi cael adroddiad da mewn arolwg Estyn yn y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi llwyddo i dderbyn sgôr hylendid bwyd 5 hefyd.

Yn ôl rhieni, mae’r plant yn hapus iawn wrth fynychu Gwdihŵs. Mae’r lle’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau iddynt yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau ysgol gan gynnwys gwasanaeth casglu plant o ysgolion yr ardal.

Colled fawr fyddai colli’r fath wasanaeth yn Llanbed oedd ymateb nifer fawr o’r rhieni a fynychodd y cyfarfod nos Fawrth.

Meithrinfa Gwdihŵs
Meithrinfa Gwdihŵs

Sefydlwyd Gwdihŵs yn wreiddiol flynyddoedd yn ôl i gynnig gofal plant i fyfyrwyr a staff y coleg. Tybed a fyddai mwy o alw am wasanaethau Gwdihŵs petai mwy o fyfyrwyr yn dod i Lanbed? Byddai mwy o fyfyrwyr yn golygu mwy o staff a gallai hynny olygu mwy o blant yn mynychu’r feithrinfa hefyd.

Yn ôl Mr Gwyndaf Tobias Dirprwy Is Ganghellor y brifysgol a siaradodd yn y cyfarfod, mae’r Undeb Myfyrwyr yn Llanbed yn gwneud colled ariannol fawr bob blwyddyn ac mae Gwdihŵs yn rhan o hynny.

Eto, petai mwy o fyfyrwyr yn dod i Lanbed, byddai’r Undeb Myfyrwyr mewn gwell sefyllfa. Felly pam fod niferoedd myfyrwyr Llanbed yn lleihau? Oes yna fwy o fuddsoddi ar gampws Caerfyrddin ar draul Llanbed? Cyhoeddwyd yn y flwyddyn ddiwethaf ynglŷn â datblygiadau cyffrous ar y cyd â’r Drindod Dewi Sant Caerfyrddin ym meysydd fel darlledu, Cymraeg i Oedolion, hyfforddiant athrawon ayb. Oes yna gynlluniau i ddod â thipyn mwy o lewyrch i gampws Llanbed unwaith eto?

Efallai mai dechrau’r broses yw hyn. Os yw’r feithrinfa yn mynd i gau, bydd campws Llanbed yn llai atyniadol i ddenu math arbennig o fyfyriwr ac yn sicr yn llai atyniadol i ddenu darlithwyr a staff da gyda theuluoedd ifanc yn y dyfodol.

Er lles y brifysgol yn y dref ac er lles y gwasanaeth gwerthfawr a gynigir i drigolion yr ardal, lleisiwch eich barn drwy ymateb yn ysgrifenedig i’r ymgynghoriad.  Gofynnir i chi gysylltu â Mr Jason Dunlop – Prif weithredwr dros dro Undeb y Myfyrwyr – union@tsd.ac.uk