Calan Mai Cwrtnewydd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Yn flynyddol ar ddydd Llun Calan Mai mae yna fwrlwm yn Ysgol Gynradd Cwrtnewydd – na, nid diwrnod ysgol cyffredin yw’r dydd Llun hwn, ond diwrnod i godi arian i’r ysgol lleol, lle mae’r gymuned gyfan yn dod i gefnogi. Cafodd y diwrnod i gynnal gyntaf 28 mlynedd yn ôl.

Daeth tyrfa arbennig heddiw eto. Ms Carol Davies, Pennaeth yr ysgol gyflwynodd Llywyddion y dydd sef Dylan Iorwerth a’i wraig Elaine. Bu Elaine yn gyn Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr ac yn aelod brwd o’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon rai blynyddoedd yn ôl, ac mae Dylan wedi ysgrifennu Caneuon Actol ac Ymgomau i’r ysgol ac maent wedi cael llwyddiant mawr gyda’i sgriptiau ragorol. Elaine fu’n siarad am eu hatgofion o fod yn rieni pan oedd Luned yn ddisgybl yng Nghwrtnewydd. Diolchwyd iddynt gan Gadeirydd  presennol y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, Mrs Ann Davies.

Daeth y rhedwyr mor bell ag Aberystwyth, Caerfyrddin a thu hwnt.

Ar ôl y rhedeg daeth pawb nôl i’r iard. Tynnwyd y raffl fawr ac yna trosglwyddwyd yr awennau i ddwylo medrus un o’r rhieni, Dewi Jones a fu’n gwerthu platiau arbennig gyda phorc mewn rôl arno.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am gefnogi unwaith eto. Codwyd dros £3,500 at goffrau’r ysgol.