Cantorion Ifanc yn Serennu

gan Rhiannon Lewis
Cystadleuwyr Llais Llwyfan Llanbed.
Cystadleuwyr Llais Llwyfan Llanbed.

Neithiwr fel rhan o Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbed’, cynhaliwyd ‘Llais Llwyfan Llanbed’ yn Neuadd Ysgol Bro Pedr. 

Cystadleuaeth yw hon a sefydlwyd yn 1993 er mwyn rhoi llwyfan teilwng a hybu gyrfa cantorion ifanc. 

Cynhaliwyd rhagbrawf yn y prynhawn a dewisodd y beirniaid, Ann Atkinson a Gwion Thomas, pum canwr i gystadlu yn y rownd derfynol – Sioned Haf Wyn Llywelyn o’r Efail Wen, sy’n astudio yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd; Rhodri Prys Jones o Lanfyllin, myfyriwr ôl radd yng Ngoleg y Guildhall, Llundain;  Elen Roberts, Llithfaen sydd newydd raddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Durham; Adam Gilbert, Aberteifi sydd newydd dreulio blwyddyn yn astudio yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol yn Llundain; Alys Mererid Roberts o Roslan sydd ar fin dechrau ar gwrs ôl radd mewn opera yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol yn Llundain. 

Yn unol â gofynion y gystadleuaeth roedd angen i’r cantorion gyflwyno rhaglen o 20 munud gan gynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig ac i’w chanu yn Gymraeg.  Clywid pob math o ganeuon yn ystod y noson o lwyfannau opera (gan ganu yn Almaeneg, Eidaleg ac hyd yn oed Rwsieg), oratorio, lied, caneuon celf  a ffefrynnau Cymraeg gan William Davies, Meirion Williams, Gareth Glyn ac Eric Jones. Barn pawb oedd yn bresennol oedd i ni gael cyngerdd o’r safon uchaf gyda’r cantorion i gyd yn cyflwyno’u rhaglen mewn ffordd ddiddorol iawn. 

Alys Mererid gyda Lena Daniel.
Alys Mererid gyda Lena Daniel.

Pump unawdydd ond dim ond un cyfeilydd, Jeannette Massochi, a hithau wedi cyfeilio i dros 25 o ganeuon gwahanol yn ystod y noson heb sôn am y rhagbrawf yn y prynhawn.  Bu Ms Massochi yn cyfeilio i’r gystadleuaeth yma o’r cychwyn cyntaf gan gefnogi a chanu pob nodyn gyda’r unawdwyr. Yn wir, mae ei gwasanaeth blynyddol a’i chefnogaeth i’r cystadleuwyr yn amhrisiadwy.

Cyn cyhoeddi’r canlyniad ar ddiwedd noson llwyddiannus iawn, llongyfarchodd y beirniaid y cantorion gan ddweud eu bod wedi eu plesio’n fawr gyda’r safon a bod dyfodol disglair i sawl un o’r cantorion.

  1. Alys Mererid Roberts

  2. Sioned Haf Wyn Llewelyn

  3. Elen Roberts

  4. Adam Gilbert

  5. Rhodri Prys Jones