Coedwig Glyn Cothi – Taith Cymdeithas Edward Llwyd

gan Alun Jones
Alun Jones Parcyrhos yn arwain Cymdeithas Edward Llwyd yn ardal Brechfa.
Alun Jones Parcyrhos yn arwain Cymdeithas Edward Llwyd yn ardal Brechfa.

Pleser oedd cael arwain taith ychydig wythnosau yn ol i Gymdeithas Edward Llwyd yn ardal Brechfa.

Taith oedd hon wnaeth y Diweddar Gerwyn Morgan a fi ei chynllunio yn ymwneud â’r afon Cothi yn y gwanwyn. Ardal sydd yn gyfoethog o ran hanes a diwylliant ac mae’r cyfleusterau i gerddwyr, beicwyr a cheffylau yn arbennig iawn.

Yn ôl hanes, yr hen enw oedd Llandeilo Brechfa. Roedd Teilo Sant yn cenhadu yn y parthau yma yn y chweched ganrif ac roedd Brechfa yn cael ei syllafu fel BRACMA yn llyfr Efyngylau Teilo neu’r Lichfield Gospels, lle meant i’w gweld heddiw.

Ystyr Brechfa yw tir brych neu ddaear frech.  Mae brech yn disgrifio natur amryliw y ddaear ar lan Cothi. Roedd ardaloedd ar lan y Cothi yn goediog iawn ac yn ffurfio hen goedwig hynafol Glyn Cothi, lle bu yn hanfodol i amddiffyn annibyniaeth teyrnas y deheubarth.

Yn dilyn gorchfygiad y Cymry gan Edward 1 yn 1283 death Coedwig Glyn Cothi yn goedwig Frenhinol a gweinyddwyd yn unol a’r ddeddf goedwig lem a’r gyfer cyflenwi pren, fel ardal hela breifat, a’r coedwigwyr yn atebol i’r Brenin yng Nghastell Caerfyrddin.

Erbyn heddiw, mae’n goedwig wahanol iawn.  Roedd y Rhyfel Mawr cyntaf yn ysgogiad i ffurfio coedwigaeth gwladol, ac erbyn heddiw mae Coedwig Brechfa yn cynnwys 6500 hectar o goed bythil wyrdd a choed called, a choed cynhennyd collddail.

Afon sydd yn tarddu ar fynydd Mallaen ac sydd yn llifo i’r Tywi ger fferm Abercothi.  Ystyr posibl i enw Cothi yw bwrw allan neu garthu, yr un syniad sylfaenol sydd gan enw Afon Clud neu Clyde sef golchi, a cheir hanes am y Cothi mor bell nôl ag 1138.

Y prif afonydd sydd yn llifo i’r Cothi yw’r Twrch, Angell, Gorlech a’r Marlais. Gwelodd y Rhufeiniaid pan yn y parthau hyn gwerth pwer dŵr ar gyfer gwaith aur Dolau Cothi drwy arallgyfeirio dŵr o’r Cothi bump gwaith.

Derbyniodd William Thomas neu Lewis Glyn Cothi ei enw barddol o’r cyffiniau, hefyd William Thomas neu y Parch Gwilym Marles ar ôl afon Marles.

Rhywogaethau Byd Natur ardal Brechfa.
Rhywogaethau Byd Natur ardal Brechfa.
Rhywogaethau Byd Natur ardal Brechfa.
Rhywogaethau Byd Natur ardal Brechfa.
Rhywogaethau Byd Natur ardal Brechfa.
Rhywogaethau Byd Natur ardal Brechfa.

 

Fel tywysydd y daith creais arddangosfa fach o rywogaethau byd natur roeddwn yn debygol o’u gweld, fel bod fy nghyd gerddwyr yn gallu canolbwynto a myfyrio ac ynganu yn well yn y byd natur.  Ni welsom wiwer goch ond gelwyd neidr ddefair y clawdd.