Colli dau arwr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Yr Heddlu wedi cyhoeddi enwau'r ddau.
Yr Heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau ffrind a fu farw mewn damwain car neithiwr ger Peniel, Sir Gaerfyrddin. Roedd Aaron Hunter a Curtis Evans ond wedi gadael Ysgol Bro Pedr ar ôl gwneud TGAU tair blynedd yn ôl. Aaron o Gwrtnewydd a Curt o bentref Llanybydder, y ddau yn ffrindiau pennaf ac yn gymeriadau hoffus iawn.

Disgrifiwyd y ddau fel dynion ifanc, ond cytuna pawb â oedd yn eu hadnabod eu bod yn rhy ifanc i farw fel hyn. Bechgyn lleol oedden nhw.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A485 ger Peniel am 12.15 y bore. Roedd yr heddlu, parafeddygon a’r gwasanaeth tân yn cynorthwyo ar safle’r ddamwain lle roedd pedwar cerbyd yn rhan ohonni.

Cafodd y ddau anafiadau marwol yn y ddamwain a chadarnhawyd eu marwolaeth yn y fan a’r lle.

Cafwyd llu o deyrngedau ar facebook bore ma, gyda sylwadau caredig fel

Blodau ar ochr y ffordd fawr ym Mheniel i gofio am y bechgyn.
Blodau ar ochr y ffordd fawr ym Mheniel i gofio am y bechgyn.

‘Dau fachgen grêt – dau ffrind’,

‘Gweithio’n galed a chwarae’n galed’,

‘Dau rhy ifanc’,

‘Byddwn yn eu colli’n fawr’,

‘Byth yn ddiflas’,

‘Y bois neisaf mas, mor ddoniol’,

‘Y ddau yn gwybod yn iawn sut i neud bobl i chwerthin’

a ‘Dau arwr’.

Bu diddordeb gan Curt mewn ceir ers yn ifanc, a gweithiai fel mecanig mewn garej yn Llanybydder ers sawl blwyddyn.  Roedd Aaron yn blymwr ac yn rhannu’r un diddordeb. Roedd yn chwarae rygbi i dîm ieuenctid Llanbed hefyd.  Un o efeilliaid oedd ef ac yn byw yng Nghwrtnewydd. Cafodd y ddau eu magu yn ardal Papur Bro Clonc – Curt yn gyn ddisgybl o Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Aaron yn gyn ddisgybl o Ysgol Gynradd Cwrtnewydd.

Fe’u cofir yn annwyl gan ffrindiau a pherthnasau fel bechgyn oedd yn mwynhau bywyd ac yn hoffi tynnu coes.

Taenwyd cwmwl o dristwch mawr dros yr ardal hon heddiw o golli’r ddau ifanc ym mlodau eu dyddiau. Mae’n ddiwrnod anodd i’r teuluoedd a’r ffrindiau niferus wrth iddynt ddod i delerau â’r newyddion syfrdanol a dorrwyd bore ma.

Cydymdeimlir â phawb yn yr amser anodd hwn o golli ffrindiau da a pherthnasau annwyl.