Cwmwl o dristwch dros y gymuned

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cafodd dau ddyn ifanc o’r ardal eu lladd mewn damwain angheuol yn ystod oriau mân y bore.  Wrth i drigolion ardal Papur Bro Clonc ddihuno bore ma ar Ŵyl y Banc braf, syfyrdanwyd pawb â’r newyddion brawychus o golli dau gymeriad hoffus mor sydyn.

imageDigwyddodd y ddamwain ar yr A485 ger Peniel yn Sir Gaerfyrddin am 12.15 y bore.  Roedd yr heddlu, parafeddygon a’r gwasanaeth tân yn cynorthwyo ar safle’r ddamwain lle roedd pedwar cerbyd yn rhan ohonni.

Cafodd y ddau ddyn lleol anafiadau marwol yn y ddamwain a chadarnhawyd eu marwolaeth yn y fan a’r lle.

Roedd yr hewl ar gau dros nos tra’r oedd yr heddlu yn cynnal ymchwiliad i’r ddamwain, ond mae wedi agor erbyn hyn.

Mae swyddogion teuluol yr heddlu wedi eu galw i gynorthwyo teuluoedd y ddau fachgen sydd wedi eu heffeithio gan y newyddion heddiw o’r ddamwain trasig.

Cydymdeimlir â phawb yn yr amser anodd hwn o golli ffrindiau da a pherthnasau annwyl.

Os oes gwybodaeth gan rywun a all gynorthwyo’r heddlu, gofynnir i chi ffonio 101.