Cwpan Rygbi’r Byd yn Llambed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Y Cynghorwr Ivor Williams, ei ferch Mererid a'i wyres Nia gyda'r cwpan ddoe.
Y Cynghorwr Ivor Williams, ei ferch Mererid a’i wyres Nia gyda’r cwpan ddoe.

Gyda chwpan rygbi’r byd yn Llambed ddoe, cafodd llawer o blant a thrigolion y cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad. Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio tymor o ddathliadau hefyd wrth iddi baratoi i ddathlu’r dref fel man geni rygbi yng Nghymru.

Roedd Cwpan Webb Ellis yng Nghlwb Rygbi Llambed ac yn ganolbwynt i Ŵyl Rygbi ar gyfer plant blynyddoedd 5 a 6 o ysgolion cynradd yr ardal. Yr ysgolion a gymerodd ran oedd Ysgol Bro Pedr, Ysgol Llanybydder a Llanllwni, Ysgol y Dderi, Ysgol Felinfach, Ysgol Llandysul ac Ysgol Carreg Hirfaen.

Roedd y gemau yn cael eu rhedeg gan Undeb Rygbi Cymru gan roi’r cyfle i’r plant oedd yn cymryd rhan – yn ogystal â thrigolion Llambed – i weld y cwpan ac i gael llun gyda’r tlws.

Un o’r rhai a gafodd lun gyda’r cwpan oedd y Cynghorwr Ivor Williams, Llambed. Roedd ef am ail greu’r llun a dynnwyd yn 1999 pan ddaeth y cwpan enwog i’r Llew Du yn Llambed fel rhan o ddathliadau’r gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Nghymru’r flwyddyn honno. Gydag ef yn y llun roedd ei ferch Mererid a’i wyres Nia. Pan dynnwyd y llun yn 1999 roedd Nia ond yn ddwy oed.

Mererid, Nia ac Ivor gyda'r cwpan yn 1999.
Mererid, Nia ac Ivor gyda’r cwpan yn 1999.

Ymffrostia Ivor a Mererid nad ydynt wedi newid llawer dros y blynyddoedd, ond stori arall fyddai honno petai Nia’n ceisio eistedd yng nghol ei mam heddiw. Mae’n ddeunaw oed ac ar fin dechrau ar gwrs prifysgol. Beth bynnag am hynny, mwynhaodd y tri yn heulwen braf Llambed gan fanteisio ar y cyfle i weld gwobr fwyaf nodedig rygbi â’u llygaid eu hunain.

Dyma hefyd oedd cychwyn dathliadau’r Brifysgol wrth iddi nodi tymor 2015/2016 yn 150 mlynedd ers i’r gêm rygbi cystadleuol gyntaf gael ei chwarae yng Nghymru. Cafodd y gêm rhwng Coleg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri ei chwarae ar gaeau Brifysgol yn y dref ym 1866.

Y Parch. Athro Rowland Williams, a ddaeth yn Ddirprwy-brifathro ar Goleg Dewi Sant yn 1850, wnaeth gyflwyno’r gêm i Lambed wedi iddo chwarae rygbi fel myfyriwr yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt.

Plant lleol a ddaeth i weld y cwpan yn Llambed.  Llun: Marc Griffiths
Plant lleol a ddaeth i weld y cwpan yn Llambed. Llun: Marc Griffiths

Gydag erthyglau yn archifau’r Brifysgol sy’n cynnwys cyn-fyfyrwyr yn hel atgofion am chwarae rygbi yng Ngholeg Dewi Sant yn Llambed yn yr 1850au, credir bod gemau wedi’u chwarae rhwng myfyrwyr o 1850 ymlaen gyda’r gêm gystadleuol gyntaf i ddefnyddio’r rheolau rygbi yn cael ei chwarae yn 1866.

Cynhaliwyd digwyddiad canmlwyddiant yn 1966 a oedd yn cynnwys gêm rygbi rhwng Coleg Dewi Sant a thîm o XV o wahoddedigion Cymreig.  Roedd y tîm yma o chwaraewyr gwadd yn cynnwys rhai o fawrion y cyfnod, gan gynnwys y diweddar Carwyn James, Barry John a Delme Thomas.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Brifysgol yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys cinio, darlith a gêm rygbi i nodi’r dathliad arbennig.

Bydd arddangosfa sy’n cynnwys amrywiaeth o eitemau sy’n gysylltiedig â rygbi Coleg Dewi Sant hefyd i’w gweld yn Roderic Bowen Llyfrgell y Brifysgol, a bydd yn agored i aelodau’r cyhoedd dros y flwyddyn nesaf.

Gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru, mae’r digwyddiadau pen-blwydd yn dathlu Llambed fel man geni rygbi yng Nghymru ac yn cynnig cyfle gwych i ddysgu mwy am y gêm a sut y cafodd ei chyflwyno a’i datblygu.