Dartiau yn Llanbed

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies

Nos Sadwrn 28fed o Fawrth gwnaeth Cynghrair Dartiau Llanbed a’r ‘Esgob o Bedlam’ gynnal noson wych o dartiau a adloniant yn neuadd Victoria – ‘Cymru yn erbyn Lloegr’. Cynrychiolwyd Cymru gan Jamie Lewis o Aberteifi a Wayne Warren o Dreorci, a chyn bencawmpwr y byd a chwarewr ‘Premier League’ Stephen Bunting a chyn rif un y byd Dean Winstanley yn cynrhychioli Lloegr.

I ddechrau’r noson bu pedwar o chwaraewyr lloel chwarae’n erbyn y gwŷr proffesynol, a Richard Thomas oedd agosaf at gael un o’r ‘scaps’ Stephen Bunting, ond collodd o 3 i 2.

Yn y gêm ryngwladol enillodd Cymru ddwy gêm i un. Gwnaeth Dean Winstanley guro Wayne Warren, Jamie Lewis guro Stephen Bunting, a thîm dwbl Cymru yn ennill y gêm o 5 i 4 ac yn ennill y gystadleuaeth.

Roedd band 2Real wedi diddanu’r dorf; braf oedd gweld cynulleidfa wedi dod ar draws Cymru a hefyd o Loegr.

Codwyd arian at elusen Multiple Sclerosis trwy ocswn a raffl, a gyda help cynllun punt am bunt banc Lloyds, gwnaethpwyd dros £1,000.

Ar nos Fercher  Medi 23ain, bydd nosweth arall o dartiau yn dod i’r dre yn y ‘Lampeter Town Darts Masters’ gyda phencampwr y byd, Gary Anderson, Michael Smith, Tony O’Shea a Darryl Fitton. Tocynnau ar werth nawr, £30 trwy law Bedwyr Davies. Ffoniwch am docynnau ar 07580128039. Ffoniwch yn fuan achos maen nhw’n gwerthu yn glou!