Teithiodd cynrychiolaeth gref o glwb rhedeg Sarn Helen i gystadlu ym Marathon Eryri ddydd Sadwrn diwethaf – marathon sy’n cael ei chydnabod i fod gyda’r caleta’ yn Ewrop, os nad y byd.
Os nad yw’r ras yn ddigon caled fel arfer, roedd glaw difrifol yng Ngogledd Cymru fore Sadwrn yn ychwanegu mwy fyth o her i’r 2500 o redwyr oedd yn cystadlu.
Dylan Lewis oedd y cyntaf o griw Llanbed i groesi’r llinell derfyn yn Llanberis, gan orffen yn nawfed yn y ras mewn amser ardderchog o 2:51:50.
Glyn Price oedd yr ail redwr Sarn Helen i orffen mewn 03:15:28, yn safle 80, ac yn ddeuddegfed yn y categori i ddynion dros 45 oed.
Y trydydd o’r clwb i gwblhau’r ras oedd Nigel Davies mewn 03:26:20, yn safle 148 yn y ras gyfan ond rhif 38 yn y categori i ddynion dros 40.
Eleri Rivers oedd y ferch gyntaf o Sarn Helen i gwblhau’r cwrs mewn amser o 04:04:23, gan sicrhau safle 64 yn ras y merched, a yn unfed ar bymtheg yn ei chategori merched dros 40.
Roedd yn ymdrech lew gan Jane Louise Holmes hefyd gydag amser o 06:10:08.
John Gilbert o Kent AC enillodd brif ras y dynion mewn record newydd i’r cwrs sef 2:33:38. Tracy McCartney o’r clwb lleol, Eryri Harriers oedd yn fuddugol yn ras y mercher mewn 3:08:44.
Canlyniadau rhedwyr eraill Sarn Helen.
Gethin Jones – 03:34:53
Kevin Hughes – 03:39:12
Tony Hall – 03:44:24 (chweched yn y categori i ddynion dros 60 oed)
Carwyn Thomas – 03:56:44
Eric Rees – 04:15:19
Terry-Wyn Jones – 04:22:16
Haydn Lloyd – 04:42:35
Steven Holmes – 06:10:08