Rhaid llongyfarch pob un aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni ar y llwyddiant yn Eisteddfod C.Ff.I Sir Gâr yn ddiweddar! Wedi wythnosau o ymarferion, pleser yw cael dweud ein bod wedi ennill y darian gwaith cartref ac wedi dod yn ail yn yr eisteddfod gyfan. Llongyfarchiadau’n arbennig i Luned Jones am ennill y gadair yn yr Eisteddfod am ei stori fer, ac yn ennill y gadair am y tro cyntaf erioed i Lanllwni!
Dyma restr o’r canlyniadau:
Gwaith Cartref
Stori fer, ac enillydd y gadair : 1af – Luned Jones
Creu eitem allan o lechen : 1af – Meryl Davies; 2il – Siriol Howells; 3ydd – Ceris Howells
Limrig : 2il – Ceris Howells
Ffotograffiaeth : 2il – Luned Jones
Adroddiad i’r papur newydd : 2il – Sioned Howells
Cyfansoddi sgetsh : 3ydd- Owain Davies
Cystadleuthau llwyfan
Llefaru dan 16 : 1af – Sioned Howells
Meimio i gerddoriaeth : 3ydd
Dawnsio disgo : 1af – Bois Llanllwni
Parti Llefaru : 1af
Deuawd Doniol : 3ydd – Hefin Jones ac Ifor Jones
Canu Emyn dan 26 : 3ydd – Sioned Howells