Mae Ffair Fwyd Llambed wedi hen ennill ei lle erbyn hyn yng nghalendr digwyddiadau gorllewin Cymru. Eleni oedd y deunfawfed flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal, ac roedd campws y coleg yn cynnig lleoliad godidog eleni eto ar ei chyfer.
Bu’r tywydd yn neilltuol o garedig, ac roedd hi’n braf gweld pobol o bell ac agos yn mwynhau’r haul a’r gwres. Yn wir, daeth pobol o bob cwr o Gymru, a daeth rhai o mor bell i ffwrdd ag Awstralia! A gyda chant o stondinau, roedd digon o bethau i’w denu. Roedd hi’n braf gweld cymaint o gynhyrchwyr o Gymru, rhai yn dod am y tro cyntaf a rhai sydd wedi bod yn ein cefnogi ers blynyddoedd.
Eleni hefyd am y tro cyntaf, nid un stondin yn unig a wobrwywyd, ond cafwyd tri chategori. Dyma’r buddugwyr – stondin fwyd: Organic Fresh Food Company (Llanbedr Pont Steffan); stondin ddiod: Gwinllan Llaethliw (Aberaeron); stondin grefftau: Old Board Company (Crymych), a chwmni bwyd Organic enillodd y wobr am y stondin orau i gyd.
Yn ogystal â’r stondinau, roedd arddangosfeydd coginio’n cael eu cynnal yn gyson trwy gydol y dydd, roedd pabell gerddoriaeth ac adloniant, yn ogystal â gweithgareddau hamdden i blant.
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi. Cynhelir yr ŵyl y flwyddyn nesaf ddydd Sadwrn, 23 Gorffennaf 2016 – gwnewch nodyn yn eich dyddiadur nawr!