Gwobrau Mawr Clwb Clonc

Dim ond £5 yw’r tâl aelodaeth, gwobrau da a chefnogi Clonc yr un pryd.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc
Clwb Clonc Gorff 2015
Enwillwyr Clwb Clonc Gorff 2015

Yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc, cyhoeddwyd enwau’r enillwyr lwcus a dynnwyd o het ar gyfer gwobrau mawr Clwb Clonc.  Llongyfarchiadau i bob un ohonynt, a diolch yn fawr am ymaelodi a chefnogi’r papur bro bob blwyddyn.

Dim ond £5 yw’r tâl aelodaeth, ond mae sawl cefnogwr yn talu mwy nag un aelodaeth sy’n golygu bod mwy o gyfle ganddyn nhw i ennill.

Dyma amser o’r flwyddyn pan welwch chi wirfoddolwyr Clonc yn galw o dŷ i dŷ yn casglu aelodaeth Clwb Clonc.  Mae calendr y clwb yn rhedeg o fis Medi i fis Gorffennaf.  Am £5 y flwyddyn bydd deg tynfa, a chyhoeddir enwau’r enillwyr mewn deg rhifyn gwahanol o’r papur bro.

Cyhoeddir yr enillwyr ym Mhapur Bro Clonc
Cyhoeddir yr enillwyr ym Mhapur Bro Clonc

Y wobr gyntaf arferol yw £25 gyda £20 am ail, £15 yn drydydd ac yn y blaen, ond ym misoedd Rhagfyr a Gorffennaf rhoddir gwobrau mawr o £50 am y wobr gyntaf a’r ail, £25 am drydydd a phedwrydd, £20 am bumed a chwched, £15 am seithfed ac wythfed ac yn y blaen.

Mae’n werth ymaelodi felly.  Am bris llyfr raffl arferol, cewch gyfle i ennill gwobrau ariannol da deg gwaith y flwyddyn.  Mae’n ffordd hwylus o gefnogi gwaith y papur bro hefyd.  Daw Clwb Clonc ag arian da i’r coffrau gan gadw pris y papur yn rhesymol i bawb.

Beth am ymaelodi eleni, os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod?  Drwy lenwi’r ffurflen archeb banc byddwch yn talu drwy’r banc bob blwyddyn ac yn lleihau’r gwaith i wirfoddolwyr Clonc.

Gwerthfawrogir eich cymorth yn fawr iawn.  A phob lwc.  Cyhoeddir enillwyr Clwb Clonc nesaf yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.