Edrych mlaen yn barod at ‘flasu’ blwyddyn nesaf!
Yfwyd dros 1,200 peint o gwrw, lager a seidr Cymreig mewn 6 awr yng Ngŵyl Gwrw gyntaf Ford Gron Llambed, ddydd Sadwrn Chwefror 7fed. Roedd yr Ŵyl Gwrw yn fenter newydd i’r Ford Gron – rydym eisoes yn brysur yn y gymuned yn trefnu digwyddiadau fel yr arddangosfa tân gwyllt blynyddol ac yn codi arian i achosion da – ond roedd y syniad yn cyd-fynd â diwylliant y Ford Gron, sef cynnal digwyddiadau ar gyfer y gymuned, codi arian, a chael hwyl.
Prynom ni 11 math o gwrw, 1 lager, 2 seidr ar gyfer yr Ŵyl o Fragdy Evan Evans, Cwrw Llŷn, Neath Ales, Bragdy Mantle, Bragdy Bluestone, Tomos Watkin a Gwynt y Ddraig.
Bu’n gymaint o lwyddiant, roedd yn rhaid cael 4 casgen arall o gwrw a thros 200 potel o lager a seidr ychwanegol. Gwnaed galwadau ffôn â bragdy Evan Evans i weld a oedd cyflenwad o gwrw ychwanegol ar gael, ac aeth ein cadeirydd yn ei gar i Landeilo i’w casglu. Felly roedd 14 math gwahanol o gwrw ar gael yn y pen draw.
Roedden ni’n disgwyl rhwng 200 a 250 o bobl, felly roedd gwydrau arbennig ar gyfer y 250 cwsmer cyntaf, ond daeth dros 350 o bobl, ac roedd yn rhaid i’r rhai a ddaeth wedyn ddefnyddio gwydrau plastig. Roeddem yn gofidio ar y dechrau: roedd 800 peint gyda ni, ond a oedd digon o bobl yn mynd i ddod? Doedd dim eisiau poeni – roedd ciw i ddod i mewn cyn i ni agor y drws! Ac roeddynt yn griw cymysg – myfyrwyr, pobl o’r dref ac o bellach i ffwrdd – Aberystwyth, Caerfyrddin a Chastell Nedd!
Cafwyd cerddoriaeth fyw yn ystod yr ŵyl ac roedd yr awyrgylch yn y neuadd yn wych.
Roedd y gwaith paratoi wedi dechrau misoedd ynghynt. O ddewis y cwrw, gwneud cais am drwydded, creu llyfryn, cael noddwyr, trefnu’r arlwyo a threfnu’r adloniant. Roeddem wedi cydweithio’n agos gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn ddiolchgar iawn i staff y campws am eu cefnogaeth wrth baratoi am yr ŵyl, ar y dydd ac ar y diwrnod wedyn. Yn yr wythnosau cyn yr Ŵyl, gwnaed lot o ddefnydd o Facebook i godi diddordeb. Yn yr wythnos cyn yr Ŵyl roedden ni’n gallu adrodd bod y cwrw yn dechrau cyrraedd ac yn cael ei storio mewn lle cyfrinachol diogel!
Y bwriad oedd ei gwneud yn ŵyl Gymreig – cefnogi busnesau yng Nghymru a hybu cwrw Cymru. Mae nifer mawr o fragdai yng Nghymru erbyn hyn, felly y prif broblem oedd dewis pa gwrw i gael a pha gwrw i adael tan y tro nesaf. Yn y diwedd cawsom ni gwrw o Ben Llŷn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a’r De. Cawsom ni lot o sylw, gyda chyfweliadau ar Radio Cymru, Radio Glangwili a Radio Beca.
Roedd yr Ŵyl yn dipyn o fenter i ni fel criw bach ond roedd pob aelod o’r Ford Gron yno ar y dydd i helpu, gan gynnwys tri aelod newydd. Diolch hefyd i Glwb 41 am helpu ar y dydd – wrth y bar, yn stiwardio, ac wrth y drws.
Bu’n gymaint o lwyddiant byddwn ni’n trefnu gŵyl eto y flwyddyn nesaf, ond ar raddfa mwy. Gobeithiwn gael 2,000 peint, a 20 cwrw gwahanol o Gymru. Bydd hefyd llawer mwy o seidr y flwyddyn nesaf, a byddwn yn ymestyn yr oriau agor, 12 – 11. Y dyddiad yw 20 Chwefror – rhowch e yn eich dyddiadur nawr!