Dydd Llun y 6ed o Orffennaf oedd trydydd diwrnod y daith o amgylch Cymru, ac roedd y criw yn profi dulliau gwahanol o deithio o Aberystwyth i Hwlffordd.
Cyrhaeddodd y criw fferm Gelligarneddau, Llangybi am 11.30yb.
Roedd deuddeg ohonynt yn cymryd rhan, y canwr Rhys Meirion a’i nith Gwenllian Boyne, y canwr Bryn Fôn, y naturiaethwr Iolo Williams a’i fab Dewi Williams, un o ohebwyr Heno Gerallt Pennant, y gantores Tara Bethan, yr actores Ffion Dafis, y digrifwyr Tudur Owen a Dilwyn Morgan, y mezzo soprano Sioned Terry a’r canwr Alejandro Jones.
Cafodd yr herwyr antur ar feiciau cwad Dalton’s ATVs, yn dilyn John Dalton ar draws trac y fferm yng nghanol y glaw. Roedd pawb wedi mwynhau’r profiad ac roedd yr awyr iach a’r adrenalin yn sicr wedi codi chwant bwyd arnynt. Bu Merched y Wawr Llanbedr Pont Steffan a Margaret Dalton yn brysur yn paratoi lluniaeth ar eu cyfer.
Wedi’r saib sydyn, gadawodd y criw fferm Gelligarneddau ar dractorau New Holland Gwili Jones a’i gwsmeriaid, ac aethant ymlaen am y Theatr yn Felinfach.
Pwrpas y daith yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i drafod rhoi organau a thrawsblannu yng Nghymru ac i godi arian i Gronfa Elen. Sefydlwyd Cronfa Elen gan deulu Rhys Meirion er cof am ei chwaer, Elen.
Pob hwyl i’r criw ar weddill eu taith o amgylch Cymru.