Mae testunau llenyddol Eisteddfod Rhys Thomas James, Llambed 2015 wedi eu paratoi ac yno i’ch ysbrydoli (gobeithio)! Y Prifeirdd Mererid Hopwood a Guto Dafydd yw’r beirniaid eleni ac mae’r gwobrau’n hael. Roedd hi’n wych gweld bardd lleol yn ennill y gadair yn Llambed y llynedd sef John Rhys Evans o Ffarmers. Ond beth am 2015?
Mae 13 o gystadlaethau llenyddol i gyd gan gynnwys cystadleuaeth ysgrifennu stori fer i ddisgyblion blynyddoedd 7-9. Unrhyw destun! Cyfle i chi’r criw ifanc gael eich beirniadu gan brifardd ac ennill clod ac arian poced teidi yr un pryd.
Wele’r testunau rhag ofn eich bod eisiau clatsho arni’n syth bin (bydd mwy o fanylion i’w cael ar wefan Eisteddfodau Cymru):
1. Y gadair (cadair fechan a £200) – Englyn yr un i unrhyw saith bardd neu awdur
2. Y goron (coron a £200) – Casgliad o gerddi. ‘Ymylon’ (dim mwy na 100 o linellau)
3. Y fedal ryddiaith (medal a £200) – Dwy ymson ar y thema ‘Crafu’ neu ‘Crafiadau’ (dim mwy na 4000 o eiriau)
4. Y gadair dan 25 oed (cadair sialens Caerellio i’w chadw am flwyddyn a chadair goffa Aneurin i’w chadw a £150)- ‘Llef’
5. Tlws Rhyddiaith dan 25 oed – stori fer (testun agored)
6. Englyn – ‘Gwêr’/ Cŵyr (Gwobr Goffa’r Capten Jac Alun Jones)
7. Telyneg ar fydr ac odl – ‘Glanio’
8. Cerdd yn y wers rydd – ‘Tywod’
9. Cywydd – ‘Cywydd coffa i berson a fu farw yn 2015’ (Gwobr Goffa Edwin Jones)
10. Adolygiad o nofel a gyhoeddwyd yn 2014 neu 2015 (dim mwy na 1500 o eiriau)
11. Saith triban neu saith pennill telyn ar y thema ‘Dathlu’
Y gwobrau i gystadlaethau rhif 6 – 11 yw 1. £50 2. £30 3. £15
12. Cystadleuaeth bl.7-9 – stori fer (testun agored) 1.£30 2. £20 3. £10
13. Emyn – ‘Estyn llaw’ (£100)
Os am y manylion llawn, ewch i wefan Eisteddfodau Cymru neu e-bostiwch y canlynol: gillianj249@gmail.com neu elinygarn@hotmail.com