Llyfrgell Llanbed ar ei newydd wedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Adran Llyfrau'r Plant
Adran Llyfrau’r Plant

Ydych chi wedi gweld Llyfrgell Llanbed ar ei newydd wedd? Tra’r oedd y tywydd yn wlyb bron drwy wyliau’r haf, roedd Llyfrgell Llanbed yn cynnig adnodd gwerthfawr i bawb gan gynnwys y plant.

Ym mis Mai eleni agorwyd estyniad i lyfrgell y dref gan alluogi mwy o le i lyfrau a chyfrifiaduron.  Bellach dydy swyddfa’r cyngor sir ddim ar wahân.  Defnyddir y rhan o’r adeilad oedd yn arfer bod yn swyddfa ar gyfer talu treth y cyngor a chasglu eich bagiau sbwriel, fel ardal ehangach i gyfrifiaduron y llyfrgell.  Mae cynrychiolydd y cyngor erbyn hyn yn rhannu desg newydd y llyfrgellydd.

Yr Estyniad Newydd
Yr Estyniad Newydd

Mae adran gysurus ar gyfer y plant gan gynnwys dewis eang o lyfrau addas yn y ddwy iaith.  Gallwch ddarllen y papurau dyddiol y ogystal â’r rhifyn diweddaraf o Bapur Bro Clonc.  Gallwch fenthyg DVDs a CDs hefyd.

Mewn cyfnod o doriadau llym gan awdurdodau lleol, rydym yn ffodus iawn yn Llanbed bod ein Llyfrgell wedi ehangu. Mae’n werth mynd yno am dro.

Wedi ei leoli ger archfarchnad Sainsbury’s yng nghanol y dref, mae’n agor bob dydd am 9 o’r gloch heblaw dydd Sadwrn pan agorir am 10.  Mae’n cau dros yr awr ginio am 1 o’r gloch (heblaw dydd Sadwrn) ac ar agor wedyn tan 5 o’r gloch fel arfer (6yh dydd Mawrth, 4.30yp dydd Mercher ac 1.00yp Dydd Sadwrn).  Dydy’r llyfrgell ddim ar agor o gwbl ar ddydd Sul.