Meistri Dartiau Llanbed

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies
Y Bois gyda Nicola Higgs, a'r nosweth yn codi Arian at apel 30 cyn 30 Nicola at ymcwil Cancr
Y Bois gyda Nicola Higgs, a’r nosweth yn codi Arian at apel 30 cyn 30 Nicola at ymcwil Cancr

Ar nos Fercher, roedd Llanbed yn ganolbwynt y Byd Dartiau gyda Noswaith Meistri Dartiau Llanbed yn Neuadd Fictoria.

Wedi ei threfnu trwy law cwmni hybu “Bishop of Bedlam” roedd 4 o chwaraewyr gorau’r byd wedi disgyn yn y dref sef Pencampwr y Byd Gary Anderson, Rhif 8 y byd Michael Smith a dau o arwyr y gêm Tony O’Shea a Darryl Fitton.

Jade a Gary Anderson
Jade a Gary Anderson

Gyda’r Neuadd yn llawn o gefnogwyr y gêm o dros y Deyrnas Unedig mi oedd gwledd o Ddartiau o’r safon orau posib gyda ‘180’s galore’ yn cael ei alw mas gyda llais cyfarwydd y gêm Paul Hinks a hefyd wrth law roedd merched ‘Walk on’ Daniella Allfree o gwmni teledu Sky a merch leol Jade Jones. Meistr y noswaith oedd Dean Williams.

Hefyd yn fyw o’r Neuadd roedd rhaglen Heno yn ffilmio a gwnaeth Rhodri Gomer siarad gyda threfnwr y noswaith Bedwyr Davies, Pencampwr y byd Gary Anderson ac Elgan Evans, Un o’r Bois lleol i chware ar y llwyfan yn erbyn Tony O’Shea.

Darryl Fitton wnaeth ennill y teitl Meistri Llanbed yn curo Michael Smith chew choes i bump yn y rownd gynderfynol a Gary Anderson o’r un sgôr yn y rownd derfynol.

Mi wnaeth y noswaith hefyd codi arian i apêl ymchwil Cancr trwy law Apêl 30 cyn 30 Nicola Higgs.