Profiad anhygoel i Iwan Gof yn Awstralia

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llwyddodd Clonc360 i gyfweld ag Iwan prynhawn ‘ma tra’r oedd yn teithio mewn awyren dros y Pasiffig. Dywedodd “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel! Wedi cwrdd â llawer o wahanol chwaraewyr, sydd wedi helpu fi i ddatblygu fy sgiliau fy hunan!”

Iwan yng Ngharfan Rygbi Cyffwrdd Cymysg Cymru.
Iwan yng Ngharfan Rygbi Cyffwrdd Cymysg Cymru yn Awstralia.

Yn rhifyn mis Ebrill Papur Bro Clonc, adroddwyd bod Iwan Evans, Parcyrhos, Cwrtnewydd wedi cael ei ddewis yng Ngharfan Tîm Cymysg Agored Rygbi Cyffwrdd, Touch Rugby, Cymru.

Teithiodd Iwan i Awstralia er mwyn cynrychioli’i wlad yng Nghwpan Rygbi Cyffwrdd y Byd, lle bu’n chwarae yn erbyn timoedd gorau’r byd.

Bu Iwan yn ymarfer yng Nghaerdydd bob yn ail benwythnos ers Hydref 2014, er mwyn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd. Iwan oedd yr ifancaf yn y garfan o 16 chwaraewr, a’r unig un o orllewin Cymru.

“Rwy wedi cael profiad bythgofiadwy o weld ychydig bach o wlad hyfryd Awstralia” ychwanegodd.

Cafodd 7 gêm ymarfer; chwarae yn erbyn timoedd rhanbarthol gorau Awstralia, yn cynnwys yr Eagles a Brisbane City Cobras, a hyd yn oed un gêm yn erbyn tîm Dynion De Affrig.

Yn y gemau Cwpan y Byd a chwaraeodd, dyma’r sgôr:

Iwan Gof yn ymarfer
Iwan Gof yn ymarfer

Samoa 14 – 9 Cymru

Yr Iseldiroedd 1 – 3 Cymru

Y Pilipinas 5 – 2 Cymru

Fiji 6 – 9 Cymru

Y Pilipinas 5 – 2 Cymru (eto)

Niue 5 – 3 Cymru

De Affrig 5 – 3 Cymru

Singapore 3 – 5 Cymru

UDA 4 – 6 Cymru

De Affrig 8 – 5 Cymru

“Cafodd y gemau eu cynnal yn Coffs Harbour, NSW. Dinas fach hyfryd, â llawer o atyniadau hardd” medd Iwan.

Wrth ei holi ynglŷn â’r safle’r oedd yn chwarae yn nhîm Cymru, esboniodd “Ma’ 3 safle penodol ar y cae, sef ‘Wing, Link and Middle’. Roeddwn i’n chwarae yn safle’r Canolwr De, neu ‘Worker Middle’, sef y safle sydd ar flaen yr amddiffyn.”

Beth am safle Cymru ar ddiwedd y twrnamaint? Dywedodd Iwan “Roedd gan Gymru 4 tîm yn y gemau, tîm y Menywod, Dynion a Chymysg Agored, ac un yn y Dynion dros 40”

“Cyrhaeddodd y Dynion dros 40 oed y gêm medal efydd, lle gollon nhw o drwch blewyn i’r hen elyn – Lloegr.”

“Brwydrodd tîm y Dynion yn galed, ond ni chawsant lawer o lwyddiant yn y cwpan. Ac yna, cyrhaeddodd tîm y Menywod, a’r tîm Cymysg (tîm fi) gemau’r trydydd safle yng nghynghrair y Plât, ar ôl cael eu curo allan o’r dosbarth cyntaf ar ôl gemau caled yng nghanol tywydd eithafol gaeaf Awstralia.”

16 oed yw Iwan, ac mae’n ddisgybl blwyddyn 11 Ysgol Bro Pedr. Beth am yr arholiadau TGAU? “Mae wedi bod yn galed i ddod o hyd i amser adolygu rhwng chwarae ac ymarfer, ond rwy wedi gwneud cymaint o adolygu ag oedd yn bosib, gan geisio gwasgaru’r pynciau.

Iwan yn arddangos ei grysau yng nghwmni'i deulu
Iwan yn arddangos ei grysau yng nghwmni’i deulu

Teithiodd Wendy ei fam gyda’r garfan ac ymunodd ei dad-cu a’i fam-gu â nhw yn Awstralia i’w gefnogi.

Cafodd Iwan gefnogaeth ei deulu a’i ffrindiau gan gynnwys aelodau Capel Brondeifi pan godwyd dros £400 mewn Noson Gwis tuag at ei daith.

Dyna beth oedd profiad bythgofiadwy iddyn nhw i gyd. Llongyfarchiadau Iwan a da iawn ti am gynrychioli Cymru a’r ardal.