Pwy sy’n cofio’r Super Furry Animals yn Llanbed?

Owain Sgiv
gan Owain Sgiv
Gig Super Furry Animals ym Mhrifysgol Caerdydd nos Wener 1 Mai.
Gig Super Furry Animals ym Mhrifysgol Caerdydd nos Wener 1 Mai.

Difyr oedd gwrando nôl ar bodlediad rhaglen Lauren Laverne, 6 Music, wythnos diwethaf (1 Mai) a chlywed cyfweliad gyda’r Super Furry Animals.

Yn y cyfweliad hynny, mi ofynodd y cyflwynydd i’r band os oedden nhw’n cofio eu gig cyntaf nôl ym 1995 a ble oedd y gig hwnnw?

A’r ateb – Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, gydag enw’r band wedi’i gam sillafu ‘Super Fury Animals’ a’r cynnig arbennig ar gwrw Coors yn cael mwy o sylw ar y posteri na’r grŵp!

Wrth i’r band ddod nôl at ei gilydd i berfformio am y tro cyntaf ers chwe mlynedd dros y penwythnos, byddai’n ddifyr clywed os oes ’na unrhyw ddarllenwyr Clonc360 yn cofio’r gig cyntaf hwnnw nôl ym 1995, neu os oeddech chi yno?