Rali Sir Gaerfyrddin – CFFI Llanllwni

gan Ffion Rees

Wel, am benwythnos prysur i aelodau C.Ff.I Sir Gâr! Dydd Sadwrn, 2 Mai, cynhaliwyd Rali clybiau ffermwyr ifanc Sir Gaerfyrddin a bu holl aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni yn brysur iawn yn ymarfer ac yn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr!

Cychwynnodd y diwrnod yn gynnar i’r rhan fwyaf ohonom, gydag aelodau yn cystadlu yn amryw o gystadlaethau o bapuro wal i ganu, dawnsio ac actio. Er gwaetha’r tywydd gwlyb ac oer, cafwyd diwrnod llwyddiannus a hwylus iawn.

Cafodd y clwb sawl canlyniad da iawn ac ar ddiwedd y dydd, cipiodd Clwb Llanllwni yr 2il wobr yn Adran Hŷn y Rali! Canlyniad gwych! Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi mewn unrhyw ffordd.