Sioe Feirch Llambed

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan

Sefydlwyd Sioe Feirch Llambed yn 1962 er mwyn osgoi beirniaid yn gorfod teithio dros Gymru i ganolfannau gwahanol i weld a oedd y meirch yn cael eu gwobrwyo gyda premiwm. Yn hytrach felly, gyda sefydliad y sioe, byddai pawb yn dod at ei gilydd i Lambed i benderfynu pa feirch byddai’n cael eu gwobrwyo gyda’r premiwm. Roedd y premiwm yn hybu’r defnydd o feirch safonol ymysg ffermwyr yn hytrach na magu wrth y rhai llai safonol.

Crespo

Mae’r Sioe yn fyd enwog ymysg dilynwyr merlod a chobiau Cymreig ac yn cael ei hystyried fel un o’r goreuon ar ôl y Sioe Frenhinol. Gyda dros 500 o geffylau yn y catalog, mae’r sioe yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Eleni, bu’r Sioe y 18fed o Ebrill yng Nghaeau Llanllyr, Talsarn.