Cynhaliwyd 35ain Sioe Amaethyddol, Cynnyrch, Ceffylau a Hen Beiriannau Gorsgoch ar gaeau Glwydwern, Llanwnnen, trwy garedigrwydd Elfyn a Sharon Morgans ddydd Sadwrn, 15fed o Awst. Prif elusen y sioe eleni yw Nyrsys Cymunedol Meddygfeydd Llambed, Llanbydder, Llynyfran a Teifi (Llandysul).
Ynghyd â’r cystadlaethau yn y babell ac ar y cae, cafwyd arddangosfa sgiliau cŵn gan y ‘Cantref Gwaelod Agility Club’, arddangosfa o gynnyrch alpaca gan ‘Bird Farm Alpacas’, paentio wynebau, mabolgampau i’r plant ac ocsiwn lwyddiannus iawn yng ngofal Eifion Morgans.
Cynhaliwyd Eisteddfod Ddwl gyda’r nos. Roedd hi’n noson llawn chwerthin gyda thalentau timoedd Pontsian, Sarn Helen, C.Ff.I. Llanwenog a thîm y Sioe. Llongyfarchiadau i Sarn Helen am ddod i’r brig.
Er mawr foddhad i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr y sioe, cafwyd sioe lwyddiannus iawn o ran niferoedd a safon y cystadlu. Cyflwynwyd y gwobrau gan y Llywydd, Mr James Lloyd (Super Jim), Ynysforgan, Abertawe, i’r canlynol:
CEFFYLAU: Ceffylau mewn llaw – Pencampwr – Dai Evans, Clogfryn (Trehewyd Gwenfron). Is-bencampwr – Euros Davies, Llys y Wawr (Cilseni Misty Made); Marchogaeth – Pencampwr – Ashley Hill (Ceredigion Lleuwen). Is-bencampwr – Ella Harries (Briggy); Hynodion y Ceffylau – Amy Chapman, Llanybydder; Pencampwr yr adran geffylau, ac yn derbyn cwpan Hang-On yn roddedig er cof am Tim a Dorothy Thomas, Ffynon Rhys – Ashley Hill gyda Ceredigion Lleuwen.
DEFAID: Defaid Llanwenog – Pencampwr – Huw Evans, Alltgoch. Is-bencampwr – Huw Jenkins, Llysfaen Uchaf. Gwobr Cymdeithas Defaid Llanwenog – Huw Evans, Alltgoch. Defaid Speckled – Pencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern. Is-bencampwr – Jones, Blaenblodau. Defaid Continental – Pencampwr – Teulu Owens, Glantre, Pontsian. Is-bencampwr – Teulu Williams, Tynllyn. Unrhyw frîd “Lowland” arall – Pencampwr – John Jones, Penrheol, Cwmsychpant. Is-bencampwr – Thomas, Waunlluest. Unrhyw frîd mynyddig arall – Pencampwr – Davies, Llwynfedw. Is-bencampwr – Davies, Llwynfedw. Oen i’r cigydd – Pencampwr – Teulu Owens, Glantre, Pontsian. Is-bencampwr – Teulu Owens, Glantre, Pontsian. Pencampwr y Pencampwyr yr adran ddefaid, ac yn ennill cwpan her Wyn Morgans, Glwydwern – Teulu Morgans, Glwydwern. Arddangosydd gorau – Megan Llwyd Davies, Drefach. Barnu Wyn Tew C.Ff.I – Enfys Hatcher (Cefnhafod gynt), Llanddewi Brefi.
HEN BEIRIANNAU: Pencampwr, ac yn ennill cwpan her Jim Evans, Fronwen – Elgan Jones, Gwel y Cledlyn, Cwrtnewydd
GWARTHEG BIFF: Pencampwr – Jones a Davies, Penhill, Penrhiwllan. Is-bencampwr – Williams, Tynllyn, Llanwnnen.
GWARTHEG GODRO: Pencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd. Is-bencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd. Cafwyd cwpan newydd eleni ar gyfer y fuwch neu treisiad odro orau o fuches di-linach, sef Cwpan Her Ffynnonrhys – Teulu Jenkins, Tyllwyd, Llambed
DOFEDNOD: Pencampwr – Mrs Cooke, Wern Newydd, Ty Mawr, Llanybydder
Y BABELL: Cynnyrch Gardd – Aeron Davies, Cribyn; Coginio – Gwyneth Morgans (Glwydwern gynt), Pensarnau; Gwinoedd – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Cyffaith – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Gwaith Llaw – Joanne Jones, Llainwen, Llambed; Blodau – Eirwen Evans, Gwynfryn, Gorsgoch; Cystadlaethau 18 oed neu iau – Meinir Davies, Caerwenog, Cwmsychbant; Cystadlaethau 26 oed neu iau – Enfys Hatcher (Cefnhafod gynt), Llanddewi Brefi; Adran Plant Ysgol Gynradd: Blwyddyn 6 neu iau – Meryl Evans, Rhydsais; Blwyddyn 2 neu iau – Fflur Morgan, Rhydyfelin, Drefach; Ysgol â’r marciau uchaf yn yr adran arlunio, ac yn ennill tarian her Cyngor Cymuned Llanwenog – Ysgol Cwrtnewydd; Cwpan Her Blaencathal, am focs o gynnyrch gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Pencampwr y babell, ac yn ennill cwpan her Malcolm Fuller – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd.
Hoffai pwyllgor y sioe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’r sioe y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 20fed o Awst 2016.