Gwledd o Sioeau lleol yr Haf hwn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Aelodau Pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbed yn y Sioe Feirch.
Aelodau Pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbed yn y Sioe Feirch.

Cafwyd cystadlu da a diwrnod i’w gofio yn Sioe Feirch Llanbed ym mis Ebrill.  Ond mae yna wledd o sioeau i ddod yr haf hwn, fel sy’ bob blwyddyn yn yr ardal hon: Sioeau amaethyddol a garddwriaethol ydynt fel arfer yn uchafbwynt calendr cymdeithasol y pentrefi bach yn ogystal â thref Llanbed ei hunan.

Dyma’r digwyddiadau sydd yn ein clymu ni at ein gilydd ac ein hatgoffa ein bod yn perthyn mor agos i’r tir.  Gwelir yr anifeiliaid fferm ar eu gorau yn ogystal â chynnyrch yr ardd a’r gegin.

Golyga sioe lwyddiannus fod tîm o wirfoddolwyr gweithgar wrth y llyw yn paratoi’r rhaglen, cysylltu â’r beirniaid, trefnu’r cae a stiwardio ar y diwrnod.  Yn ogystal â hyn bydd y cystadleuwyr yn codi ben bore i drefnu eu hanifeiliaid a’u cynnyrch er mwyn cystadlu.  Dyma beth yw bwrlwm y bröydd hyn.

Gwnewch nodyn o’r dyddiadau canlynol er mwyn cefnogi sioe leol eleni.  Cewch amser wrth eich bodd.

 

Cylch y gwartheg
Cylch y gwartheg

20 Mehefin – Sioe Ceffylau Gwedd Gorllewin Cymru yn Llanybydder – Lawrlwythwch y rhaglen

8 Awst – Sioe Cwmsychpant – Lawrlwythwch y rhaglen

14 Awst – Sioe Llanbedr Pont Steffan – Lawrlwythwch y rhaglen

15 Awst – Sioe Gorsgoch – Lawrlwythwch y rhaglen

22 Awst – Sioe Arddwriaethol Llanybydder

31 Awst – Sioe a Threialon Llanllwni – Lawrlwythwch y rhaglen

31 Awst – Sioe Bentref Llanfair Clydogau

12 Medi – Ffair Ram, Cwmann – Lawrlwythwch y rhaglen