Taith Ar Dy Feic 2015

gan Ar Dy Feic

Ar Dy Feic 2015 – taith seiclo noddedig o John O’Groats i Lanybydder – 700 milltir mewn 7 diwrnod.

ar dy feic

 

Rhwng 24-30 Mai 2015 bydd criw o 15 o bobl yn ymgymryd â’r her o seiclo 700 milltir mewn 7 diwrnod o John O’Groats i Lanybydder. Byddwn yn gwneud yr her i godi arian i ddwy elusen sy’n agos iawn at ein calonnau – Ymchwil Canser Cymru a Parkinson’s UK Cymru.

Llŷr Davies yw trefnydd y daith a dyma’r ail her iddo ymgymryd â threfnu: “Yn 2013 fe wnaeth criw ohonom ni seiclo Lap o Gymru gan godi £15,000 tuag at Ymchwil Canser Cymru. Yn dilyn cwblhau’r daith hynny roeddem eisiau gosod her newydd i’n hunain felly pam lai seiclo 700 milltir mewn 7 diwrnod! Mae’r criw o 15, sy’n cynnwys 7 o fechgyn a 8 merch, wedi cytuno i wneud yr her gyda fi er mwyn codi arian at ddwy elusen deilwng iawn – Ymchwil Canser Cymru unwaith eto a Parkinsons UK Cymru. Mae’r ddwy elusen yn agos iawn at galonnau’r seiclwyr. Mae pawb wrthi’n brysur yn ymarfer ar hyn o bryd a chofiwch ganu corn os ydych yn pasio rhai o’r criw ar yr heolydd o amgylch gorllewin Cymru yn yr wythnosau nesaf”.

Bydd yr her yn dechrau yn John O’Groats ar 24 Mai gandeithio i Inverness, Fort William, Kilmaurs, Penrith, Burnley, Y Trallwng gan orffen yn Llanybydder ar y 30 Mai 2015.

Mae cinio elusennol ac ocsiwn wedi ei gynnal ar y 28 Mawrth yng Ngwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn a llwyddwyd i godi £6,490 tuag at y gronfa sy’n hwb fawr i’r seiclwyr wrth iddynt baratoi at y daith. Diolch i Westy’r Emlyn, Band 6 a Pretty Seats & Bows Chair Cover & Sash Hire am gefnogi’r digwyddiad.

Dywedodd Llŷr Davies, “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i brif noddwyr y daith sef Clinig Bach y Wlad; Bwydydd Castell Howell; 3A’s Leisure; Jones Brothers (Henllan) Ltd; Ceir Cawdor; J&P Home Improvements; Deckrite; Cambrian Pet Foods Ltd; Ceredigion Plumbing Supplies Ltd; a Daionic am eu cefnogaeth. Ni fyddai’n bosib i ni ymgymryd â’r her hebeu cefnogaeth”.

Am yr wybodaeth ddiweddaraf am y daith a newyddion am y paratoadau dilynwch dudalen Ar Dy Feic 2015 ar Facebook neu @ardyfeic2015 ar Drydar. Gallwch hefyd cefnogi a chyfrannu at yr achos trwy http://uk.virginmoneygiving.com/team/ardyfeic