Taith Gerdded Huw Jenkins dros MS

Lynwen Jenkins
gan Lynwen Jenkins
Huw a Barry ar ddechrau'r daith
Huw a Barry ar ddechrau’r daith

Am ddeg o’r gloch nos Wener y 19eg o Fehefin cychwynnodd Huw Jenkins a Barry (Finch) Davies ar y daith hir (dros 60 milltir) ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion o  Ynyslas  i Bont Aberteifi. Cerddodd y ddau am oriau yn y glaw a’r tywyllwch cyn cyrraedd Aberaeron tua saith o’r gloch am frecwast yn fferm Clogfryn.

Yna ymunodd Teleri ag Elin Gwyther, Linda Jenkins ag Eirlys Evans. Cafwyd toriad i ginio yn Llangrannog, gyda phawb yn falch o’r egwyl a’r bwyd.

Wedi cinio ymunodd criw o bobl, teulu a ffrindiau, i gerdded yn eu tro – eu hoedrannau yn amrywio o 7 i 77 a braf oedd gweld gymaint yn barod i gefnogi.

Huw ar ddiwedd y daith.
Huw ar ddiwedd y daith.

Daeth Huw a phawb i ben y daith am 7.50 nos Sadwrn, yn flinedig ond yn hapus.

Pwrpas y daith oedd codi arian tuag at Gymdeithas MS, elusen sydd yn agos iawn at galon Huw gan fod ei gefnder yn dioddef o’r clefyd yma ers blynyddoedd bellach. Y targed ar y cychwyn oedd £500 ond erbyn hyn, mae’r cyfanswm wedi pasio £2000 ac yn dal i godi. Tipyn o gamp o gofio taw dim ond mis yn ôl dechreuodd gasglu at yr achos!

Nid yw’n rhy hwyr i gyfrannu. Gellir gwneud hynny drwy fynd i wefan justgiving.

20150620_195437
Rhai o’r criw a fu’n cefnogi