Tîm Swyddogion Bro Pedr

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan

10504908_10202764896857257_4557921046049038066_o   Mae bron blwyddyn wedi mynd ers i ni’n chwech cael ein hethol fel Tîm Swyddogion Ysgol Bro Pedr. Heb os, mae bod yn rhan o’r tîm yn fraint arbennig iawn, braint yr ydyn ni’n gobeithio wedi gwneud cyfiawnder ohoni. ‘Prysur’ yw’r gair i ddisgrifio ein blwyddyn gyda ni’n chwech yn ymgymryd mewn sawl dyletswydd – gwahanol gyflwyniadau, gwasanaeth, cyflwyno Pigion yr Ŵyl a bod yn bresennol mewn gwahanol ddigwyddiadau. Er hyn, rydyn ni wirioneddol wedi mwynhau bod yn rhan o’r tîm sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ni a chael ffrindiau newydd wrth i ni gynrychioli’r Ysgol mewn nifer o gyfarfodydd a fforymau cenedlaethol. Ond, wrth i’n cyfnod ni fel prif swyddogion ddirwyn i ben, hoffem ddiolch i bawb am yr holl gymorth, a phob hwyl i’r swyddogion etholedig newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.