Bore Sadwrn y 4ydd o Orffennaf, teithiodd criw o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog i ddiwrnod cystadlaethau FfCCFfI, sef y rowndiau terfynol cenedlaethol dros Gymru a Lloegr.
Roedd hi’n ddiwrnod hanesyddol i Glwb Llanwenog, gyda ni fel clwb yn cynrychioli Cymru mewn 3 gwahanol gystadleuaeth, â 10 aelod yn rhan o’r cystadlu. Mae’n anodd iawn cyrraedd y rownd yma, heb sôn am gael 10 aelod yno! Tipyn o gamp!
Bu rhaid ennill ar lefel Ceredigion ac wedyn ar lefel Cymru cyn cael yr anrhydedd o gynrychioli ein gwlad. Fel hyn aeth hi:
Siarad Cyhoeddus Saesneg dan 26 mlwyddyn oed:
Chairman: Cennydd Jones Clwb Pontsian 1af
Speaker: Enfys Hatcher Clwb Llanwenog 1af
Respondent to Speaker: Dafydd Morgan Clwb Pontsian 3ydd
Proposer to Visitor: Gwawr Jones Clwb Llanwenog 2il
Respondent for Visitor: Luned Mair Clwb Llanwenog 2il
Daeth y tîm yn ail ar ddiwedd y cystadlu.
Siarad Cyhoeddus Saesneg dan 21 mlwydd oed:
Chairman: Sioned Davies Clwb Llanwenog 2il
Daeth y tîm, sef Sioned Davies, Sioned Hatcher, Lauren Jones a Meleri Davies, i gyd o Lanwenog yn 3ydd ar ddiwedd y cystadlu. Tîm llawn o’r un clwb, yn creu hanes.
Arddangosfa Ciwb:
Teithiodd y ciwb i Stafford hefyd, ac aelodau’r tîm oedd Carwyn Davies, Meinir Davies, Briallt Williams, Lauren Jones a Luned Mair.
Diwrnod i’w gofio!