Trigolion y Plwyf yn Cynrychioli ein Gwlad

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Cystadlu yn NFYFC
Llwyddiant ar lefel Cymru a Lloegr

Bore Sadwrn y 4ydd o Orffennaf, teithiodd criw o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog i ddiwrnod cystadlaethau FfCCFfI, sef y rowndiau terfynol cenedlaethol dros Gymru a Lloegr.

Roedd hi’n ddiwrnod hanesyddol i Glwb Llanwenog, gyda ni fel clwb yn cynrychioli Cymru mewn 3 gwahanol gystadleuaeth, â 10 aelod yn rhan o’r cystadlu. Mae’n anodd iawn cyrraedd y rownd yma, heb sôn am gael 10 aelod yno! Tipyn o gamp!

Bu rhaid ennill ar lefel Ceredigion ac wedyn ar lefel Cymru cyn cael yr anrhydedd o gynrychioli ein gwlad. Fel hyn aeth hi:

Siarad Cyhoeddus Saesneg dan 26 mlwyddyn oed:

Chairman:                            Cennydd Jones        Clwb Pontsian         1af

Speaker:                               Enfys Hatcher          Clwb Llanwenog     1af

Respondent to Speaker:   Dafydd Morgan      Clwb Pontsian         3ydd

Proposer to Visitor:           Gwawr Jones           Clwb Llanwenog     2il

Respondent for Visitor:    Luned Mair              Clwb Llanwenog     2il

Daeth y tîm yn ail ar ddiwedd y cystadlu.

Siarad Cyhoeddus Saesneg dan 21 mlwydd oed:

Chairman:                            Sioned Davies                      Clwb Llanwenog     2il

Daeth y tîm, sef Sioned Davies, Sioned Hatcher, Lauren Jones a Meleri Davies, i gyd o Lanwenog yn 3ydd ar ddiwedd y cystadlu. Tîm llawn o’r un clwb, yn creu hanes.

Arddangosfa Ciwb:

Teithiodd y ciwb i Stafford hefyd, ac aelodau’r tîm oedd Carwyn Davies, Meinir Davies, Briallt Williams, Lauren Jones a Luned Mair.

Diwrnod i’w gofio!