Urddo Maer newydd tref Llambed

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Nos Wener, 1 Mai 2015, cynhaliwyd seremoni Urddo’r Maer newydd yn Neuadd yr Hen Goleg, Llanbedr Pont Steffan. Mae hon yn seremoni flynyddol, pan drosglwyddir cadwyn y swydd, a chadeiryddiaeth y Cyngor Tref, o un Maer i’r llall.

elsieY Cynghorydd Elsie Dafis oedd y Maer ar gyfer 2014-2015, ac felly cafodd hi gyfle i fwrw golwg yn ôl ar flwyddyn lawn a phrysur. Roedd ei haraith agos-atoch yn dyst i’w chymeriad hawddgar, ac anodd fyddai i unrhyw un golli diddordeb wrth wrando arni’n siarad am yr holl weithgareddau y bu’n ymwneud â nhw fel Maer y dref.

Diolchodd Elsie i Liz Williams, ei Maeres ar gyfer y flwyddyn, ac i’r Parchg Goronwy Evans, ei chaplan.

chrisYn dilyn seremoni fer, urddwyd y Cynghorydd Chris Thomas yn Faer ar gyfer 2015-2016. Y Faeres yw ei briod, Janet Thomas. Diolchodd Chris am yr anrhydedd o gael gwasanaethu fel Maer y dref am yr eildro, ac mae’n edrych ymlaen at flwyddyn llawn bwrlwm. Penodwyd y Parchg Bill Fillery yn gaplan y Maer.

Enwebwyd yn ffurfiol y Cynghorydd Dave Smith yn Ddarpar Faer.

Llywyddwyd y cyfarfod gan Glerc y Dref, Eleri Thomas.

Diweddwyd y noson gyda phryd bwyd ym mwyty’r coleg, a chyfle i gymdeithasu. Ymhlith y dyrfa,  roedd rhai yn cynrychioli gwahanol gymdeithasau a sefydliadau’n y dref, yn ogystal â gwesteion eraill – Elin Jones AC, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Meiri trefi Aberystwyth, Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn.


Ôl-nodyn: noson cyn Urddo’r Maer newydd, cynhaliwyd cyfarfod o’r Cyngor Tref, a phleidleisiwyd o blaid defnyddio gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn eu cyfarfodydd misol. Llongyfarchiadau i Elsie Dafis am arwain ar hyn, a diolch i’r cynghorwyr eraill sy’n teimlo’r un awydd i sicrhau lle dyladwy i’r Gymraeg yn eu gweithgareddau.