Mae bechgyn Ford Gron Llambed yn brysur gyda gweithgareddu’r Nadolig yr amser hon y flwyddyn. Rydym wedi bod yn ddiwyd yn y gymuned yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cynnal ein Gŵyl Gwrw a Seidr ym mis Chwefror, helpu gyda’r Ffair Fwyd a rhedeg yr arddangosfa Tân Gwyllt, ond mae tymor y Nadolig wastad yn yn gyfnod llawnach.
Ddydd Sadwrn diwethaf roedden ni wedi mynd i ysbryd yr Ŵyl gyda stondin yn gwerthu gwin cynnes a mis peis yn Ffair Nadolig y Brifysgol. Gyda’r tywydd yn oer ac yn wlyb, roedd croeso mawr i ddiod bach ar y ffordd i mewn (ac ar y ffordd allan!)
Ddydd Sadwrn nesaf, byddwn yn codi coed Nadolig ar siopau a busnesau’r dref. Rydym yn codi ac addurno’r coed gyda goleuadau i helpu creu naws yr Ŵyl yn y dref – helpu’r dref a chodi arian ar yr un pryd. Mae’r busnesau yn talu £15 am goeden ac mae’r elw i gyd yn mynd i gronfa achosion da lleol Ford Gron Llambed. Mae’r gronfa hon ar gael i unrhyw achos da lleol, ac rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau. Rydym yn ddiolchgar i’r busnesau sy’n cefnogi bob blwyddyn, yn arbennig yn yr hinsawdd economaidd anodd presennol. Mae’r dref yn edrych cymaint yn well gydag addurniadau Nadolig! Wedyn, byddwn yn heplu stiwardio noson siopa hwyr ar Ragfyr 10fed. Gobeithio am dywydd braf a digon o gwsmeriaid.
Bydd y Ford Gron yn cynnal ein cinio Nadolig yn Nhafarn y Cwmann ac yn ail ddechrau cwrdd yn y flwyddyn newydd gyda pharatoadau at ein Gŵyl Gwrw a Seidr ar 20 Chwefror.
Mae’r Ford Gron yn rhan o rwydwaith o glybiau byd-eang i ddynion 18-25 oed. Rydym yn cwrdd ddwyaith y mis i gymdeithasu, codi arian a gwneud cyfraniad i’n cymuned. Rydym yn awyddus i gael aelodau newydd trwy’r amser – croseo cynnes i bawb. Am fwy o fanylion cysyllter â Rob Phillips ar 07973951611.