Fi ddim yn erbyn mesurau atal cyflymder ond mae ffordd Caerfyrddin yn wirion. Dros 20 milltir a dim modfedd heb derfyn cyflymder mwy na 50. Mae’n gwneud synnwyr yn y pentrefi ond mae rhannau hir rhwng pentrefi gyda therfyn 40 neu 50 yn yr unig ardaloedd lle mae’n ddiogel goddiweddyd heb unrhyw gyfiawnhad amlwg – dim ysgolion, tai… Mae hon yn ardal wledig wedi’r cyfan!
A yw ardal Llanbed wedi cael ei hynysu ymhellach gan ragor o rwystrau atal cyflymder ar ein ffyrdd yn ddiweddar? Dyna’r cwestiwn sy’n gwasgu ar rai trigolion, masnachwyr a chymudwyr.
Mae tref Llanbed yn dangos peth arwyddion bod llai o bobl yn siopa yna. Tybed a oes llai o bobl yn dod i Lanbed oherwydd ei bod yn anoddach i gyrraedd yma?
Rhoddwyd twmpathau cyflymder ar yr A482 yng Nghwmann yn ddiweddar i gydfynd â’r ysgol gynradd newydd. Rhoddwyd cyfyngiad cyflymder o 50 mya hefyd bob cam i Lanwrda. Gwelir yr holl gyfyngiadau cyflymder gwahanol ar yr A485 sy’n arwain i Gaerfyrddin. Hewl brysur arall yw’r A487 i Aberystwyth lle gwelir tagfeydd trwm ar adegau prysur y dydd. Ydy’r cynghorau sir yn ceisio torri pob cysylltiad â Llanbed?
Mesurau i atal damweiniau yw’r cyfyngiadau a’r twmpathau wthgwrs, ac mae ymchwil yn dangos eu bod yn effeithiol iawn yn gostwng cyflymdra trafnidiaeth ac felly yn lleihau damweiniau yn y tymor hir. Maen nhw i’w cymeradwyo felly yn hynny o beth, yn enwedig wrth gofio’r damweiniau angheuol a fu ar y ffyrdd hyn.
Ond mae’r ffordd o Lanbed i Gaerfyrddin yn llethol yn ôl cymudwyr cyson. Mae Anwen Butten yn teithio bob dydd o Gellan i Gaerfyrddin i weithio yn Ysbyty Glangwili. Trydarodd hi “Gwastraffu arian eto ar y rhewl! Ramp cyflymder & ffens!”
Mewn ymateb gan Gyngor Sir Gâr ar trydar dywedwyd “Maent yn rhan o gynllun ehangach o fesurau a gyflwynwyd yn y pentrefi rhwng Alltwalis a Llanybydder ar hyd yr A485. Cyllidwyd y cynllun hwn gan Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru.”
Mae teithio drwy bentref Llanllwni yn dwyllodrus iawn gyda’r cyfyngiadau cyflymder yn amrywio o 40 mya lan i 50 ac yna nol i 30. Mae taith a arferai gymryd o gwmpas hanner awr wedi cynyddu i bron awr gyfan er mwyn mynd o un dref i dref arall.
Yn ogystal â hynny codwyd twmpathau newydd yr wythnos hon yn Alltwalis a Gwyddgrug. Gwelir arwyddion cyson ym Mheniel hefyd lle nad oes hawl goddiweddyd. Mae bron yn haws mynd i Gaerfyrddin bellach drwy Landeilo a Nantgaredig.
Beth yw’r ateb felly? Ydy hyn yn cynyddu’r galw i ailsefydlu’r rheilffordd drwy Lanbed? Yn bendant mae angen mesurau call i leihau damweiniau ffordd, ond mae angen cysoni’r trefniadau er mwyn hwylustod cymudwyr ac ymwelwyr i’r ardal.