‘Ar Grwydir’ cyfrol newydd Goronwy Evans am y crwydriaid

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

ar-grwydirAr yr 11eg Hydref cynhaliwyd noson lansio cyfrol newydd ‘Ar Grwydir’ gan y parch Goronwy Evans yn Festri Brondeifi Llanbed. Ffrwyth blynyddoedd o ymchwil gan yr awdur yw hi am yr hen grwydriaid a fu’n cerdded ein hardaloedd ni.

Ceir hanes dros 120 o grwydriaid yn y gyfrol, pobl fel Twm Shot, Bili Bwtsiwr Bach a George Gibbs. Dywed Hedd Bleddyn, Penegoes, mewn llythyr at Goronwy wedi’r noson lansio “Rwyf wedi dotio ati. Mae yn arbennig ac yn gofnod pwysig o gyfnod sydd bron yn angof.”

Roedd y crwydriaid hyn wedi gorfod codi pac am wahanol resymau a llawer ohonyn nhw oherwydd effeithiau’r Ail Ryfel Byd. Cerdded ar hyd y ffyrdd oedd llawer ohonyn nhw, eraill ar gefn beic ac ambell un yn gwthio cart neu hen bram a chysgu mewn llofft stabl, sgubor, sied wair neu feudy.

Gellir prynu copi o’r gyfrol ddiddorol hon gan yr awdur ei hun yn Y Mans, Llanbed am bris o £9.95. Anrheg hyfryd ar gyfer y Nadolig.

Dyma englynion gan Hedd Bleddyn i gyfarch y gyfrol:

Goronwy a ddwg rinwedd – a ddelwedd
Fforddolion a’u mawredd;
A gwerth eu taith faith hyd fedd
O rodio mewn anrhydedd.

Eu cyfran rhwng clawr cyfrol – a gafwyd
I gofio’n arwrol
Am eu rhawd, ac nid ffôl
Yw doniau’r crwydriaid dynol.

Hanes yw’r cyfan heno – yn ein byw
Am ein byd wnaeth gilio,
A rhoed braint i grwydriaid bro
Yn gyfoeth gwerth ei gofio.