Roedd cyfarfod cinio arbennig o Ford Gron Llambed i drosglwyddio’r gadeiryddiaeth ar nos Fawrth 26ain o Ebrill. Roedd cyfle i’r aelodau a gwesteion mwynhau pryd o fwyd ardderchog yng Nghegin Gareth ar Heol Llanwnen, trafod y flwyddyn aeth heibio a chynlluniau am y flwyddyn i ddod. Yn ystod y flwyddyn, bydd Ford Gron Llambed yn dathlu 50 mlynedd ers gael ei sefydlu.
Roedd areithiau gan gadeirydd y llynedd, Kyle Erickson, a Llywydd y llynedd, Robert Jones, cyn troglwyddo’r awennau i’r cadeirydd newydd, Rob Phillips, a’r Llywydd newydd, Rhys Bebb Jones. Swyddogaeth gyntaf y cadeirydd newydd oedd i groesawu aelod newydd, Duncan Parkes, Cae Dash yn aelod.
Roedd y flwyddyn a aeth heibio yn un llwyddiannus iawn gyda’r Frod Gron yn helpu gyda nifer o weithgareddau cymunedol gan gynnwys y Ffair Fwyd ac addurno’r dref ar gyfer y Nadolig, a threfnu digwyddiadau llwyddiannus gan gynnwys Arddangosfa Tân Gwyllt a Gŵyl Gwrw a Seidr.
Y swyddogion am y flwyddyn i ddod yw:
- · Llywydd – Rhys Bebb Jones
- · Cadeirydd – Rob Phillips
- · Is-Gadeirydd – Matt Cobb
- · Ysgrifennydd – Lee Drury
- · Trysorydd – Ryan Jones
- · Digwyddiadau Cymdeithasol – Duncan Parkes
Mae Ford Gron Llambed yn rhan o Ford Gron Prydain ac Iwerddon – clwb cymdeithasol ar gyfer dynion ifanc sy’n helpu yn y gymuned ac yn codi arian ar gyfer achosion da. Rydym yn croesawu aelodau newydd – cysyllter â Rob Phillips 07973951611 am wybodaeth bellach.