Cantores yn “class act” yn Llais Llwyfan Llanbed

gan Rhiannon Lewis
Y buddugol - Catherine Woodruff
Y buddugol – Catrin Woodruff

Daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i neuadd Ysgol Bro Pedr nos Sul, Awst 28ain ar gyfer rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed 2016, cystadleuaeth i gantorion ifanc dan 30 oed sy’n rhan o benwythnos Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen.

Cynhaliwyd y rhagbrawf yn y prynhawn a dewiswyd pump o gantorion i ganu yn yr hwyr.  

Y beirniaid eleni oedd Brian Hughes, cyfansoddwr poblogaidd ac athro canu llwyddiannus o Rosllannerchrugog, (a fu hefyd yn beirniadu yn 2007 pan gipiodd y soprano o Fethania, Gwawr Edwards y wobr), a Iona Jones Caerdydd, athrawes llais ac enillydd Gwobr Goffa David Ellis yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000.  Bu hithau hefyd yn beirniadu’r gystadleuaeth yn y gorffennol a hynny yn 2011 pan gipiwyd y wobr gan  Mari Wyn Williams, Llanberis.  Dwy soprano yn dod i’r brig gyda’r beirniad yn 2007 a 2011 – oedd hynny’n awgrymu rhywbeth am 2016?

Y beirniad Brian Hughes yn sgwrsio gyda Gethin Lewis
Y beirniad Brian Hughes yn sgwrsio gyda Gethin Lewis

Sefydlwyd y gystadleuaeth yma yn 1993 a’r enillydd y flwyddyn honno oedd y tenor o Bencader, Aled Hall.  Mae Aled erbyn hyn yn enw cyfarwydd a phoblogaidd ar lwyfannau opera Prydain gan cynnwys cyfnodau yn CoventGarden gyda’r Cwmni Opera Brenhinol, Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Holland Park ac Opera North eleni.  Bu Jeannette Massochi yn cyfeilio i’r gystadleuaeth o’r flwyddyn gyntaf hynny ac unwaith eto eleni disgrifiwyd ei chyfraniad i lwyddiant y gystadleuaeth fel un hollol amhrisiadwy.

Yn unol â gofynion y gystadleuaeth roedd angen i’r cantorion berfformio rhaglen amrywiol heb fod yn hwy na 20 munud gan gynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig i’w chanu yn Gymraeg.

Elen Roberts o Lithfaen agorodd y cystadlu.  Ar ôl gadael Ysgol Glan y Môr, Pwllheli aeth Elen ymlaen i astudiocerddoriaeth ym Mhrifysgol Durham gan raddio llynedd. Bydd yn cychwyn  ar gwrs ôl radd yn yr Academi Gerdd Brenhinol yn Llundain fis nesaf. 

Ffion Haf  o Dryslwyn ger Llandeilo a chyfreithwraig yn Abertawe, ddaeth i’r llwyfan nesaf.  Mae Ffion yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Eisteddfod Llanbed a hi gipiodd y Rhuban Glas i gantorion dros 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod llynedd.

Ar twitter, fel ‘Cymro balch o Sir Gâr’ mae’r tenor o Gaerfyrddin, Gethin Lewis, yr unig bachgen yn y gystadleuaeth,  yn disgrifio’i hunan.  Pan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, profodd Gethin tipyn o lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd ac ar ôl gadael yr ysgol aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerddoriaeth a Drama’r Guildhall yn Llundain. Yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ddechrau’r mis enillodd Gethin Ysgoloriaeth Goffa David Lloyd i’r tenor mwyaf disglair yn y cystadlaethau lleisiol dan 25 oed.

Soprano o Geredigion oedd y nesaf i gystadlu, er bod Catrin Woodruff, sy’n wreiddiol o Lanrhystud ac yn gynddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn byw yn Sussex erbyn hyn. Astudiodd Catrin gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caer Efrog cyn symud ymlaen i’r Coleg Cerddoriaeth Brenhinol ym Manceinion gan ennill gradd Meistr ddwy flynedd yn ôl.

Fel i Gethin, bu Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn un llwyddiannus i unawdydd olaf y noson hefyd, sef Heulen Cynfal o’r Parc ger Y Bala, lle’r enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd soprano dan 25 oed.  Yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Berwyn ac Ysgol Gerddoriaeth CheethamsManceinion, aeth Heulen ymlaen i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Gerddoriaeth Brenhinol yn Llundain lle mae erbyn hyn yn dilyn cwrs Meistr ôl radd.

Wedi dwy awr o gystadlu brwd ac egwyl fer er mwyn i’r beirniaid gael cyfle i drafod daeth y ddau yn ôl i’r neuadd i draddodi’r feirniadaeth.  Canmolwyd lleisiau rhagorol y cantorion, eu techneg, y rhaglenni amrywiol a’u gallu i ganu mewn amrywiol arddulliau a ieithoedd.  Yn ei sylwadau fe wnaeth Brian Hughes hefyd longyfarch pwyllgor yr eisteddfod am barhau i gynnal y gystadleuaeth, un yn ei eiriau ef “sy’n bwysig iawn i’r cantorion ifanc ac yn un y mae nifer o gantorion yn anelu i’w ennill oherwydd ei statws uchel”.

Yn dilyn hyn cyhoeddwyd y canlyniad fel hyn – 

1af Catrin Woodruff ( yn ennill £1000 yn rhoddedig gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen a Thlws gwydr hardd yn rhoddedig gan Yr Athro Densil a Mrs Ann Morgan)

2il Gethin Lewis (£500 Cyngor Sir Ceredigion)

3ydd Heulen Cynfal (£300 Cyngor Tref Llanbed’)

4ydd Elen Roberts (£200 Las Recycling Ltd/LAS PropertyWales) 

5ed Ffion Haf (£100 Cyfri Cyf, Llanbed’)

Yn ystod y noson  hefyd cyhoeddodd Twynog Davies (Cadeirydd Pwyllgor Cerddoriaeth yr Eisteddfod) mai Godfrey Williams, Froncysyllte oedd wedi dod i’r brig eleni am gyfansoddi tôn i emyn Dai Rees Davies, ‘Estyn Llaw’, a chafwyd perfformiad o’r emyn-dôn fuddugol gan Lowri Elen gyda Delyth Medi yn cyfeilio iddi.