Cymanfa Ganu Undodiaid Ceredigion

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Cynhaliwyd Gymanfa Ganu 124ain Undeb Gerddorol Undodiaid Ceredigion yng Nghapel Ciliau Aeron ar ddydd Sul, Ebrill 24ain. Braf oedd gweld y capel yn gyfforddus lawn yn ystod sesiwn y prynhawn gyda’r plant a’r ieuenctid.

Y plant a'r Ieuenctid
Y plant a’r ieuenctid
Catrin - Llywydd y Prynhawn
Catrin – Llywydd y Prynhawn

Eleni, Catrin Evans o Dalgarreg oedd yn arwain y canu ac fe fwynhaodd y profiad yn fawr iawn. Roedd yn agos i 30 o blant yn y gynulleidfa yn morio canu. Roedd Catrin wedi dod â Arch Noa ganddi gyda nifer o offerynnau o’r Affrig i’r plant i’w chwarae.

Joio'r te a'r cymdeithasu
Joio’r te a’r cymdeithasu

Roedd yna wledd o luniaeth wedi ei baratoi lawr yn neuadd y pentref rhwng y ddau gyfarfod. Diolch i swyddogion y neuadd am gael benthyg y cyfleusterau gogyfer â’r te.

Yn yr hwyr tro’r oedolion oedd hi a chafwyd canu da o dan ei arweiniad a’r 4 llais i’w glywed – sbesial iawn. Yn ôl yr arfer J. Eirian Jones, Cwmann oedd yn cyfeilio.

Catrin Evans yn arwain y canu
Catrin Evans yn arwain y canu

Llywydd y prynhawn oedd Catrin Ahmun, Capel Rhydygwin a Janet Evans, Ciliau Aeron oedd yn llywydd yr hwyr. Cafwyd areithiau arbennig gan y ddwy.

Roedd yna gyffro mawr eleni gan bod yna bws wedi ei drefnu i gario pobl o’r neuadd i fyny i’r capel ac yn ôl. Diolch i Granville Issac o Gwmni Bysiau G&M, Llambed am wneud y bws wennol. Roedd hyn wedi hwyluso popeth i bawb, boed yn ifanc neu mewn oedran.

Janet - Llywydd y nos
Janet – Llywydd y nos

Diolch i Gapel Ciliau Aeron am eu cydweithio yn ystod y paratoadau.