Da iawn tîm rygbi dan 16 Llanbed!

gan Anthea C Jones
Tîm rygbi dan 16 Llanbed
Tîm rygbi dan 16 Llanbed

Ar y 3ydd Ebrill teithiodd tîm dan 16 Llanbed i Lanelli i chwarae yn erbyn tîm y Llanelli Wanderers yn rownd cyn-derfynnol y “Plat”. Gan deithio’n ddwfn i dir y Scarlets, roedd ychydig o bryder ymysg y chwaraewyr, er, yn y bôn, nid oedd amheuaeth na allai tîm Llanbed ennill y dydd.

Wrth i’r manlaw gwympo, daeth yn amlwg nad gêm hawdd oedd hon i fod. Roedd y ddau dîm yn chwarae’n galed o’u calonnau, a llwyddodd y ddau dîm i gadw’r gwrthwynebiad oddi wrth y linell gais holl bwysig.

Ond cadwodd Llanbed y pwysau ar y gwrthwynebwyr tan eu bod yn ildio dwy gic gosb, a thrwy esgid medrus Shaun Morgans llwyddwyd i sgorio 6 pwynt ac ennill y gêm.

Gorfoledd mawr i’r holl chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r holl gefnogwyr yw cyrraedd y rownd derfynol felly mewn pythefnos, yn enwedig gan mai hon fydd blwyddyn olaf y tîm, yn yr adran iau.

Diolch i Barry Davies a’i gynorthwy-ydd Dai Jones sydd wedi hyfforddi’r tîm dros y 10 mlynedd diwethaf a phob lwc yn y ffeinal!