Diffyg Diddordeb yn y Sîn Roc Gymraeg yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Poster Twrw Tanllyd 1984
Poster Twrw Tanllyd 1984

Cynhaliwyd noson gyda bandiau roc Cymraeg nos Wener yn Neuadd Fictoria, Llanbed dan nawdd ‘Celf Llanbed’.  Y bandiau dan sylw oedd Ysgol Sul a Mellt.

Mor braf oedd cael mynychu’r hen neuadd a welodd grwpiau gorau Cymru yn perfformio yno dros y blynyddoedd.  Pwy sy’n cofio digwyddiadau fel ‘Twrw Tanllyd’ yno a chyffro bandiau fel Louis a’r Rocyrs, Derec Brown a’r Racaracwyr, Jim O’Rourke a’r Hoelion Wyth, Y Ficar, Maffia Mr Huws a Treiglad Pherffaith?  Y lle’n dan ei sang bryd hynny.

Mor wahanol oedd noson Ysgol Sul a Mellt nos Wener a hynny oherwydd diffyg presenoldeb Cymry ifanc lleol.  Ble’r oedd pawb?  Rhyw hanner cant o bobl oedd yno a deugain o’r rheiny yn bobl ddi-Gymraeg canol oed, diolch amdanynt.

Y Mellt yn Neuadd Fictoria
Y Mellt yn Neuadd Fictoria

Ydy gallu’r ardal hon i drefnu gigs Cymraeg wedi dod i ben?  Mae ‘Tregaroc’ yn Nhregaron a ‘Gŵyl Nôl a Mlan’ yn Llangrannog yn ddigwyddiadau llwyddiannus dros ben.  Beth oedd y rheswm am ddiffyg diddordeb ieuenctid yr ardal yn y noson hon?  A oedd diffyg cyhoeddusrwydd tybed?  Peidied neb ag achwyn nad oes dim i’w wneud yn Llanbed o ystyried yr arlwy oedd yn Neuadd Fictoria nos Wener.

Mae Ysgol Sul a Mellt yn fandiau Cymraeg cyfoes.  Roedden nhw ymhlith y bandiau mwyaf poblogaidd ym Maes B eleni, a da iawn nhw am berfformio mor broffesiynol yn Llanbed o flaen cynulleidfa digon truenus.

Mor wahanol oedd y noson o ran y neuadd hefyd a hynny er gwell.  Mae wedi ei hadnewyddu yn y blynyddoedd diwethaf gyda chegin oedd yn gweini bwyd a bar pwrpasol.

Digwyddiadau Cerddorol nesaf Celf Llanbed
Digwyddiadau Cerddorol nesaf Celf Llanbed

Mae Neuadd Fictoria bellach yn cael ei rhedeg gan y gymuned, sef Ymddiriedolaeth Datblygu Transition Llambed – grŵp menter gymdeithasol nid ar gyfer elw, er budd pobl Llanbed.

Dyma un o’r grwpiau gweithredu a anwyd o Transition Llambed.  Mae gan y lle botensial enfawr i hwyluso pob math o weithgareddau, cyfarfodydd a chynadleddau naill ai yn y brif neuadd gyda’i llwyfan ac awditoriwm, y neuadd fechan gyda chegin neu’r ddau gyda’i gilydd.

Yn ychwanegol i hyn, roedd y system sain a ddefnyddiwyd o’r radd flaenaf a goleuadau ac effeithiau mwg arbennig i greu awyrgylch pwrpasol.

Trefnir cerddoriaeth fyw yn Neuadd Fictoria bob mis, gweler y poster.  Ac anogaf Celf Llanbed i wahodd Bandiau Cymraeg yma eto.  Mae dewis da o fandiau yn ran o’r Sîn Roc Gymraeg bresennol.

Mae angen dod o fan hyn bobl Llanbed! Cofiwch fynychu a mwynhau’r tro nesaf.