Diwedd ar gyfnod i ddau gymeriad bro

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Alun ac Eifion, Crown Stores
Alun ac Eifion, Crown Stores

Alun ac Eifion Willimas, Crown Stores yw testun colofn ‘Cymeriadau Bro’ Papur Bro Clonc y mis hwn.

Dyma ddau frawd sydd wedi bod yn rhedeg cwmni J H Williams a’i feibion yn y Stryd Fawr, Llanbed ers y chwedegau.  Maent yn wynebau cyfarwydd i siopwyr Llanbed ac wedi cyfrannu’n economaidd tuag at lewyrch y dref.

Cyflogwyd hyd at ugain o staff ganddynt ar un adeg tra’r oedd pedair siop yn Llanbed ac un yng Nghaerfyrddin.

Gallwch ddarllen y golofn yn llawn gen i yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc, ond dyma flas i chi:

“Dau gymeriad siaradus a chwrtais bob amser sydd wedi llwyddo i gynnig gwasanaeth personol i’w cwsmeriaid dros y degawdau. Dau Gymro glân, diwylliannol ac egwyddorol hefyd sydd wastad yn barod i gefnogi achosion lleol.”

Eifion ac Alun, Crown Stores
Eifion ac Alun, Crown Stores

Dim ond y siop fwyd yn Llanbed sydd ar agor erbyn hyn.  Mae’r siop lestri yng Nghaerfyrddin a Llanbed wedi cau ynghyd â’r siop nwyddau’r cartref a’r siop baent a phapurau wal yn Llanbed.  Mae Alun ac Eifion wedi cyrraedd oedran ymddeol a’r siop fwyd yn debygol o gau hefyd yn hwyrach eleni.

Sonnir yn y golofn “Mae’n mynd i fod yn olygfa ryfedd yn y Stryd Fawr heb gwmni J H Williams a’i Feibion. Dyma hoelen arall yn arch yr iaith Gymraeg yn y dref medd rhai, a siop arall yn llai i dynnu cwsmeriaid i’r dref yn wirionedd anodd ei lyncu i eraill.”

Mynnwch gopi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen y golofn yn ei chyfanrwydd a mwynhau hanes y ddau gymeriad bro unigryw hyn.