Elin Williams yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes

gan Anwen Eleri

Elin Williams o Gwmann sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen eleni – gwobr sy’n cael ei rhoi yn flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Y Supreis yn Ysgol Bro Pedr
Y syrpreis yn Ysgol Bro Pedr

Cafodd Elin wybod ei bod wedi ennill y wobr mewn noson syrpreis wedi ei threfnu gan yr Urdd a chwmni teledu Avanti. Roedd Elin dan yr argraff ei bod yn rhoi gwersi llefau i’r digrifwr Gary Slaymaker ond yng nghanol y wers, daeth y gyflwynwraig Heledd Cynwal i mewn a rhoi gwybod iddi mai hi sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen eleni.

Dywedodd Elin, “dwi mewn sioc, mae yn syrpeis mawr ond yn un hyfryd!”

Gary, Elin a Morfudd
Gary, Elin a Morfudd

Mae Elin wedi bod yn hyfforddi partïon llefaru Adran ac Aelwyd Llanbedr Pont Steffan ers 16 mlynedd ac wedi cael llwyddiant cyson gyda’i phartïon a’r unigolion mae hi’n hyfforddi.  Mae hefyd yn is-lywydd cangen Merched y Wawr Llambed ac yn Lywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Bro’r Dderi, ble mae hefyd yn hyfforddi’r aelodau i lefaru a pherfformio.

Mae Lowri Elen o Aelwyd Llambed wedi bod yn cael gwersi llefaru gan Elin ers 13 o flynyddoedd.  Dywedodd, “Mae Elin yn athrawes hollol wych a mor dalentog!  Mae wedi cyfrannu cymaint i’r ardal dros y blynyddoedd a dwi wedi bod mor ffodus a lwcus o gael bod yn rhan o’i gyrfa fel hyfforddwraig.  Mae’r ymarferion yn sbort ac rydym yn chwerthin gymaint – mwy nag adrodd ambell waith! Ond pan mae’r steddfod yn agosáu, mae hi’n gallu mynd bach yn strict!  Mae Elin wedi gwneud cymaint i fi dros y blynyddoedd diwethaf a bydden i fyth wedi cyrraedd y safon o gystadlu rwyf ynddo nawr hebddi.”

Caiff Tlws John a Ceridwen ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

Mi fydd y seremoni swyddogol i anrhydeddu Elin yn digwydd Nos Iau Eisteddfod yr Urdd yn y Pafiliwn yn Fflint. Edrychwn ymlaen am y noson fawr a hynny i ddiolch a dangos ein gwerthfawrogiad i Elin am ei gwaith. Llongyfarchiadau mawr Elin, enillydd haeddiannol a theilwng iawn.