Roedd Ffair Fwyd Llambed, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 23ain Gorffennaf, yn llwyddiant mawr. Roedd y ffair eleni yn fwy nag erioed gyda dros 130 o stondinau a’r campws a’r dref yn llawn ymwelwyr.
Agorwyd y Ffair gan Faer y Dref, y Cyng. Dave Smith, ac Abs Love, canwr a chyn-aelod o Grŵp F5ive ac roedd amrywiaeth o adloniant gan gynnwys cerddoriaeth a dawnsio trwy’r dydd. Yn ôl yr arfer, roedd arddangosfeydd coginio gyda Deri Reed, y cogydd moesol; Alex Rees, Prif Gogydd Gwesty’r Glynhebog; a Daniel Powell o Gaffi Conti yn y dref.
Roedd amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd – o gacennau i gaws, o gig i gwrw, ac o win i fara. Roedd hyd yn oed gŵyl gwrw mewn hen gerbyd hufen ia! Roedd tipyn o gystadleuaeth am y stondin gorau ond yn y diwedd yr enillydd oedd Cusan, Banc y Capel, Caerfyrddin – cynhyrchwr lleol o wirod hufennog tebyg i Baileys.
Roedd Marchnad y Bobl wedi agor ar gyfer yr ŵyl unwaith eto eleni, ac yn ogystal â bwyd roedd stondinau crefft a gwybodaeth, gan gynnwys Cyngor Ceredigion ac NFU Cymru.
Aeth y Ffair ymlaen yn hwyrach nag arfer. Roedd cymaint o bobl yn dal ar y maes am 4 o’r gloch roedd y stondinwyr yn parhau i werthu! Roedd y tywydd braf wedi cadw pobl allan yn siopa yn hwyrach na’r arfer mae’n siŵr.
Nid yw’r Ffair yn digwydd heb lot o waith a chodi arian, ac mae nifer o fudiadau a chwmnïau lleol wedi helpu trwy roi nawdd ariannol neu gymorth ymarferol gan gynnwys:
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan
- Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan
- LAS
- Tregroes Waffles
- Deintyddfa Pont Steffan
- Ford Gron Llambed
- Dŵr Tŷ Nant
Mae’n wir bod y Ffair Fwyd yn rhoi ein tref ar y map, gyda phobl yn dod o bell i ymweld â Llambed ac i wario am y dydd. Dylem fod yn ddiolchgar fod criw o bobl yn fodlon dod at ei gilydd i drefnu digwyddiad gwych fel hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn.