Ffair Ram Cwmann a Thaith Tractorau 2016

Canlyniadau Ffair Ram

Ffair Ram
gan Ffair Ram
Enillwyr 2016
Enillwyr 2016

Cynhaliwyd y 26ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar y 10fed Medi. Cafwyd diwrnod teg o ran tywydd a chefnogaeth dda yn ystod y dydd.

Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mrs Enid Davies, Bryneiddig gynt. Cafwyd araith bwrpasol ganddi hi a’i brawd Irfon Williams.

Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa arbennig o dda o hen beiriannau.  Atyniad newydd eleni oedd y Daith Tractorau 5 milltir a gynhaliwyd yn ystod y bore.

Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Ron Thomas a chodwyd swm sylweddol gyda chyfran o’r elw yn mynd tuag at Sefydliad Aren Cymru.

Dyma enillwyr y Gwobrau:

Adran Fferm – Gareth Russell; Llysiau a Ffrwythau – Ann Davies; Blodau – Muriel McMillan; Coginio – Sioned Russell; Cyffeithiau / Gwinoedd – Helen Roberts;

Taith Tractorau yn mynd heibio Cae'r Nant
Taith Tractorau yn mynd heibio Cae’r Nant

Ysgol Feithrin – Esther Llwyd; Dosbarth Derbyn – Cai Davies; Blwyddyn 1 a 2 – Ellie Gregson; Blwyddyn 3 a 4 – Casi Gregson; Blwyddyn 5 a 6 – Mared Jones ac Elen Jones; Ysgol Uwchradd – Morgan Lewis;

Arlunwaith a Ffotos – Meinir Evans; Crefftau Cefn Gwlad – Gwyn Williams; Gwaith Llaw – Eirlys Jones;

Adran y Defaid – Tomos Jones, Felindre;

Cwpan Sialens Felindre Uchaf – Ann Davies; Cwpan Sialens Felindre Isaf – Aled Roberts; Cwpan Sialens Wyn a Mary – Dewi, Blaenbinderndyn; Cwpan Sialens Eric Harries – Aled Roberts; Cwpan Sialens Teulu Hendai – Dewi, Blaenbinderdyn; Cwpan Sialens Dalgety – Aled Roberts; Cwpan Sialens Bronwydd – Helen Roberts; Cwpan Sialens Dilys Godfrey – Eirlys Jones.

Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.

Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.