Ffoi i’r Aifft – Taith Cymorth Cristnogol drwy ardal Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Cymorth Cristnogol
Cymorth Cristnogol

Heddiw, mae yna 65 miliwn o bobl yn ffoaduriaid ar draws y byd – y mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. I dynnu sylw at yr angen llethol sy’n eu gwynebu, mae tîm o staff Cymorth Cristnogol a Cytun, (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) yn arwain taith gerdded noddedig ar draws Cymru, o Fethlehem (Sir Gaerfyrddin) i’r Aifft (Sir Ddinbych), gan godi arian tuag at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol.

Cychwynnodd y daith gyda gwasanaeth ym Methlehem bore Sul Rhagfyr 4ydd a chyrraedd Talyllychau cyn nos. Llanbed fydd y cyrchfan heddiw.  Byddan nhw’n dechrau o Dalyllychau am 9 y bore gan gerdded trwy ardal Esgairdawe er mwyn cyrraedd Capel Sant Thomas Llanbed tua 4.30 y prynhawn.  Bore yfory, bydd y cerddwyr yn mynd o Lanbed gan aros am de yn Llanfair Clydogau cyn parhau â’r daith tuag at Dregaron.

_80460971_2868bfc2-e64b-47c1-af8b-65b7a8b88602Yna Aberystwyth, Ynyslas – lle y bwriedir croesi’r Afon Ddyfi mewn cwch, yn yr un modd a’r miloedd o ffoaduriaid sydd wedi ceisio croesi Môr y Canoldir. Ymlaen wedyn i Fachynlleth, Brithdir, Bala, Rhuthun a chyrraedd yr Aifft ar Ragfyr 15fed.  Bydd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy i gloi’r daith nos Iau Rhagfyr 15fed am 7 o’r gloch gyda Esgob Gregory Cameron, Esgob Llanelwy yn pregethu.

Meddai’r Parch Aled Edwards, Cyfarwyddwr CYTÛN, ‘Rwy’n falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r daith arbennig hon. Cefais y fraint o deithio i weld sefyllfa’r ffoaduriaid ar y ffin rhwng Serbia a Macedonia ac mae’n holl bwysig ein bod yn dal ar bob cyfle i godi llais ac i godi arian i leddfu’r angen mawr sy’n wynebu’r teuluoedd hyn sydd wedi ffoi rhag sefyllfaoedd enbyd yn ein byd.’

cytun-logoMeddai Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru – “Gyda thymor y Nadolig yn agosau, cofiwn fel y bu raid i Iesu a’i deulu ffoi i’r Aifft i ddianc rhag trais Herod. Heddiw, mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl sydd mewn sefyllfa debyg, gan ddarparu cymroth dyngarol megis bwyd, meddigyniaeth a phecynnau glendid, mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws y byd. Mae’r daith gerdded hon yn fodd nid yn unig i godi arian hanfodol i gynnal ein gwaith, ond hefyd i dynnu sylw i’w dioddefaint, a herio’r ffordd negyddol y mae’r cyfryngau a’r llywodraeth wedi bod yn portreadu ffoaduriaid.”

Am fwy o wybodaeth, neu i noddi’r cerddwyr, ewch i wefan Cymorth Cristnogol ac i dudalen justgiving.