Mae’n rhyfedd fel mae rhywun yn anghofio sut le oedd Llanbed. Yn rhaglen ddiweddaraf ‘Y Ditectif’ ar S4C, gwelwyd golygfedd o Stryd Fawr Llanbed ar ddiwrnod achos llys – math o olygfa na welir y dyddiau hyn ac nad sy’n gyfarwydd i lawer iawn o bobl bellach.
Ym mhennod 6 a ddarlledwyd yr wythnos ddiwethaf, Mali Harries oedd yn bwrw golwg ar sut y daliodd yr heddlu lofrudd ar ôl iddo saethu ffarmwr o Landdewi Brefi yn y 1980au.
Roedd yr achos llys yn Neuadd y Dref a gwelwyd yr heddlu yn hebrwng y llofrudd o orsaf heddlu Llanbed ar hyd y Stryd Fawr gan droi mewn o dan Neuadd y Dref. Roedd y Stryd Fawr yn llawn o bobl leol yn dangos eu hanfodlonrwydd tuag at y llofrudd oherwydd yr hyn a wnaeth i un o gymeriadau Llanddewi Brefi.
Yn ogystal â hyn, roedd yn amlwg mai heddlu lleol oedd ar ddyletwydd tu fas y llys. Gwelir y Cwnstabl Dai Evans yn rheoli’r dorf a’r Cwnstabl Peter Hynd yn hebrwng y llofrudd i’r car wedi’r gwrandawiad. Ailddangosir darn o’r Cwnstabl Owain Lake yn sirarad o ganol pentref Llanddewi Brefi. Ydych chi’n adnabod rhagor o wynebau?
Mae’r rhaglen ar gael i’w gwylio ar wefan S4C tan y 12fed o Orffennaf.