Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Gwrw gyntaf Llambed fis Chwefror llynedd, cynhelir gŵyl debyg – ond mwy o faint! – eto eleni, ar ddydd Sadwrn 20fed Chwefror.
Criw Ford Gron Llambed sydd wedi trefnu’r ŵyl, ac mae ’na edrych mlaen at ddydd Sadwrn.
Mae’r lleoliad yr un peth â’r llynedd – Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – ac rydym yn ddiolchgar am y cydweithio hwylus rhyngom ni a’r Brifysgol.
Bydd amrywiaeth eang o gwrw a seidr a lager ar gael, o wahanol ardaloedd yng Nghymru, yn ogystal â bwyd a cherddoriaeth gan fandiau lleol.
Bydd yr ŵyl ar agor o 12 y prynhawn tan 11 o’r gloch yr hwyr.
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.lampeterbeerfestival.co.uk/CY/ a chofiwch hoffi ein tudalen Facebook: https://www.facebook.com/lampeterbeerandciderfestival