Gŵyl Gwrw o Gymru yn Llambed

gan Rob Phillips

Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Gwrw gyntaf Llambed fis Chwefror llynedd, cynhelir gŵyl debyg – ond mwy o faint! – eto eleni, ar ddydd Sadwrn 20fed Chwefror.

Criw Ford Gron Llambed sydd wedi trefnu’r ŵyl, ac mae ’na edrych mlaen at ddydd Sadwrn.

Beer festival CloncMae’r lleoliad yr un peth â’r llynedd – Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – ac rydym yn ddiolchgar am y cydweithio hwylus rhyngom ni a’r Brifysgol.

Bydd amrywiaeth eang o gwrw a seidr a lager ar gael, o wahanol ardaloedd yng Nghymru, yn ogystal â bwyd a cherddoriaeth gan fandiau lleol.

Bydd yr ŵyl ar agor o 12 y prynhawn tan 11 o’r gloch yr hwyr.

Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.lampeterbeerfestival.co.uk/CY/ a chofiwch hoffi ein tudalen Facebook: https://www.facebook.com/lampeterbeerandciderfestival