Gymanfa’r Frenhines a’r Ffarmwr Ifanc

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Ar nos Sul y 13eg o Fawrth, cynhaliwyd digwyddiad blynyddol yng nghalendr y Ffermwyr Ifanc yn ein plwyf – Gymanfa Ganu’r Frenhines a’r Ffarmwr Ifanc. Capel Brynhafod oedd yn sat-naf pawb y noson honno, a braf yw gallu dweud bod y lle yn orlawn! Roedd pob sedd yn llawn ag aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r mudiad.

Roedd Dion a finne ‘ise cynnal noson wahanol eleni er mwyn   rhoi sbin ein hunain ar y Gymanfa. Felly yn hytrach na chael   un arweinydd i arwain y gymanfa, fe benderfynon ni gael 10 – un i bob emyn. Yn ogystal â hyn, aelodau oedd yr arweinyddion yma i gyd, gyda’r nod o gadw’r noson yn nwylo’r aelodau. Roedden ni eisiau rhoi cyfle i bawb i arwain, er mwyn magu hyder a phrofiad. Arweinyddion y noson oedd:

Meinir Davies, Llanwenog; Gethin Hatcher, Llanwenog; Richard Jones, Pontsian; Huw Bryant, Pontsian; Carwyn Hawkins, Felinfach; Nest Jenkins, Lledrod; Cadi Jones, Lledrod; Dafydd James, Troedyraur; Nia Medi Jones, Llanddewi Brefi a ni’n dau ( Enfys a Dion )

Llywydd y noson oedd Mr Gareth Lloyd, Hafan Cletwr a’r artistiaid oedd aelodau’r ddau glwb – Llanwenog a Phontsian. Codwyd £850 tuag at Ysgoloriaeth Er Cof am Miriam Briddon. Diolch i bawb am eich cyfraniadau.

Cerddodd pawb drwy’r pentref i Neuadd yr Hafod wedyn, lle roedd gwledd o fwyd yn ein disgwyl ar ôl y Gymanfa.

Diolch i bawb am bob cymorth a chefnogaeth gyda’r digwyddiad unigryw yma. Mae’r ddau ohonom yn gwerthfawrogi popeth.

Tri gair i ddisgrifio’r noson hyfyrd yma – gwahanol, lliwgar a boncyrs!

Dyma ambell lun…

image image image  image image image image image image image image image image image