Hen Ysgol y Dolau Llanybydder ar werth am £950,000

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Llun o dudalen facebook Highmead School
Llun o dudalen facebook Highmead School

Mae hen adeilad Ysgol y Dolau, Llanybydder ar werth am amcan bris o £950,000.  Caiff ei werthu mewn arwerthiant yn Llundain ddydd Iau nesaf, y 14eg o Ebrill.

Oes diddordeb gan unrhyw un lleol ei brynu a’i ddatblygu?  Agorwyd Ysgol y Dolau yn adeilad mawreddog hen Blas y Dolau yn 1956.  Ysgol breswyl a ariannwyd gan y dair sir oedd hon ar gyfer disgyblion ag angenion dysgu arbennig.  Ychwanegwyd adeiladau pwrpasol i’r hen blasdy yn ystod y pumdegau a bu’n ysgol lwyddiannus a chartrefol iawn yn ei dydd.  Ceuwyd drysau’r ysgol yn y nawdegau gyda newidiadau ym mholisi addysg.

Tu fewn i hen adeilad y plas.  Llun: www.auctionhouselondon.co.uk
Tu fewn i hen adeilad y plas. Llun: www.auctionhouselondon.co.uk

Gwerthir yr eiddo sy’n cynnwys 46 ystafell wely mewn safle o 27 erw hardd ar lannau’r afon Teifi gan gwmni Auction House, Llundain.  Mae’n gyfuniad o’r adeilad traddodiadol ac adeiladau addysgol mwy newydd gan gynnwys neuadd fawr a chegin.  Mae cae pêl-droed yno ac ystafelloedd newid.  Rhoddir cyfle i ddarpar brynwyr ymweld â’r lle am y tro olaf ddydd Mawrth 12fed Ebrill rhwng 11 a 12 o’r gloch.

Bu Eifion Davies, cyn gadeirydd Clonc yn gweithio yno am bron deng mlynedd ar hugain fel athro a dirprwy brifathro.  Mae ganddo atgofion melys o’r lle.  “Roedd y plant yn gymeriadau” meddai Eifion, “a’r ysgol yn le hapus iawn.  Weithiau pan fyddai plant yn gadael yr ysgol ac yn dychwelyd adref, byddai ambell un yn rhedeg bant o gartref er mwyn dychwelyd i’r ysgol.”

“Mae’n adeilad mawr a oedd yn cynnwys pwll nofio y pryd hwnnw.  Yn yr hen adeilad roedd ‘Organ loft’ a tho gwydr iddo achos roedd Cyrnal yr hen blas yn organydd talentog.  Mae yna hanes ei fod unwaith wedi saethu ffesant a hwnnw wedi torri’r to gwydr wrth ddymchwel o’r awyr.”

Neuadd Ysgol y Dolau.  Llun: www.auctionhouselondon.co.uk
Neuadd Ysgol y Dolau. Llun: www.auctionhouselondon.co.uk

Plant Ysgol y Dolau oedd yn gyfrifol am blygu Papur Bro Clonc o ddyddiau ei sefydlu yn 1982 tan i’r ysgol gau.  Eifion oedd yn gyfrifol am drefnu hyn yn y Neuadd, a Del James yn dod â’r tudalennau unigol yno o’r argraffwyr cyn mynd â nhw ar ddiwedd y prynhawn wedi eu gosod mewn trefn i’r siopau.  “Roedd gofyn cadw llygad barcud ar bob un wrth ei waith, ac fe gostiodd hyn sawl baryn o siocled i fi hefyd amser ’ny” meddai.

Wedi dyddiau’r ysgol, defnyddiwyd y lle fel Coleg Islamaidd o 1998 ymlaen.  Adroddwyd bod llofrydd y Ffiwsilwr Lee Rigby, sef Michael Adebowale, wedi mynychu’r lle yn 2012.  Yn dilyn ymchwiliad gan MI5 daethpwyd i’r canlyniad ’nad oedd yn lle eithafol’.

Felly beth ddaw o hen Ysgol y Dolau?  Mae’r cyfleusterau addysgu sydd yno yn fwy na’r ysgol newydd a godir yn Nrefach ar hyn o bryd ar gyfer Ysgol Dyffryn Cledlyn.  Cred rhai y byddai wedi costio llai i leoli’r ysgol fro newydd hon yn Ysgol y Dolau.

Beth am westy moethus neu bentref gwyliau?  Amser a ddengys.  Un peth sy’n sicr, byddai’n braf gweld yr adeilad hardd yn cael ei atgyweirio i’w lawn ogoniant a gweld defnydd iddo unwaith eto.